6. Dadl: Brexit a'r Diwydiant Pysgota

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur 5:42, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad, ond onid y pwynt yw hyn: oni bai bod gennym ni fynediad dilyffethair i'r farchnad Ewropeaidd, lle'r aiff y rhan fwyaf o'n cynnyrch, bydd mewn gwirionedd yn lladd ein diwydiant pysgota a'n diwydiant pysgod cregyn, oni bai fod gennym ni hynny? Felly, onid ai rhesymeg yr hyn yr ydych chi'n ei ddadlau yw bod yn rhaid i ni gael mynediad dilyffethair?