6. Dadl: Brexit a'r Diwydiant Pysgota

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Ceidwadwyr 5:27, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn yn fawr iawn ategu'r sylwadau yr ydych chi newydd eu gwneud. Ymwelais â'r ysgol gwyddorau eigion ym Mangor y llynedd. Fe wnaethon nhw siarad â mi am eu cwch, y Tywysog Madog. Wrth gwrs, mae mewn perchenogaeth ddeuol, ac fe grybwyllais hyn wrth Lywodraeth Cymru. Dywedasant fod hynny'n rheswm i beidio ag ymyrryd, yn hytrach na mecanwaith y mae angen iddynt ei ddilyn i sicrhau bod y llong hon yn parhau i hwylio, ond rwy'n eich cefnogi'n llwyr: mae'n rhaid i'r llong hon barhau â'i gwaith gwych.