Tlodi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Llafur 2:18, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwyf i bob amser yn meddwl bod gwrando ar y Ceidwadwyr yn siarad am dlodi ychydig fel rhywun yn ceisio sefyll ar gwch olwyn heb syrthio i mewn i'r môr o gyni cyllidol sydd wedi casglu o'i amgylch. Y gwir amdani yw bod ei blaid ef wedi gwneud cymaint i leihau incwm ein pobl dlotaf. Sut gallwn ni orffwys fel cymdeithas pan ydym yn gwybod bod nyrsys yn Lloegr sy'n gorfod mynd i fanciau bwyd? Roeddem ni'n arfer dweud wrth bobl, 'Os byddwch chi'n cael swydd, byddwch chi'n well eich byd'. Nid yw hynny'n wir mwyach. Rydym ni wedi gweld budd-daliadau mewn gwaith yn cael eu torri, rydym ni wedi gweld toriadau treth i'r rhai sy'n ennill fwyaf, ac wedyn mae gennym ni wleidyddion Ceidwadol yn meddwl tybed pam mae lefelau tlodi wedi cynyddu. Oes, wrth gwrs, mae gennym ni ein cynlluniau i fynd i'r afael â thlodi, ond mae angen newid Llywodraeth arnom ni yn Llundain fel bod gennym ni Lywodraeth sydd yn llawer mwy ymrwymedig i gymdeithas fwy cyfartal.