Seilwaith

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Llafur 2:09, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mewn dau funud a phum eiliad, oherwydd edrychais i ar y cloc, llwyddodd yr Aelod i gymryd mater yr wyf i'n cytuno ag ef yn eithaf sylweddol, a'i gyflwyno mewn ffordd mor drwsgl iddo gythruddo bron pawb yn y Siambr. Dyna ei ddawn—rwy'n deall hynny. Ond mae'n rhaid i mi ddweud y byddwn ni bob amser yn ymladd i wneud yn siŵr bod Cymru'n cael ei chyfran deg o fuddsoddiad mewn seilwaith. Nid oes gennym ni gyfran deg ar hyn o bryd. Mae'n sôn am seremoni gyfrinachol, mor gyfrinachol, yn wir, nad oeddwn i hyd yn oed yno. [Chwerthin.] Ond, dyna ni, a bydd wedi gweld y sylw iddi ar y newyddion beth bynnag. Ond yn sicr, rwy'n rhannu ei awydd i wneud yn siŵr y cedwir yr addewidion a wnaed i Gymru yn y gorffennol, o ran trydaneiddio ac o ran, wrth gwrs, gweld mwy o arian ar gael ar gyfer y seilwaith sydd ei angen arnom ni yng Nghymru.