Trafnidiaeth Gyhoeddus

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Llafur 1:59, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ni fydd yn wasanaeth sy'n rhedeg ar y rheilffordd, os caf ei roi felly, ar reilffyrdd ysgafn neu reilffyrdd trwm, ond trwy fysiau. Bydd yn arbennig o bwysig—rydym ni'n deall pwysigrwydd hyn—bod yr ysbyty yn cael ei wasanaethu gan rwydwaith bysiau effeithlon ac eang sy'n cysylltu â gwasanaethau rheilffyrdd ehangach lle bydd pobl angen hynny. Felly, ydy, mae trafnidiaeth gyhoeddus a hwylustod trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan hynod bwysig o gynllunio ar gyfer yr ysbyty.