Seilwaith

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Llafur 2:11, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu cael gwared ar y tollau, ac mae'n hen bryd hefyd. Mae pobl wedi bod yn talu ers blynyddoedd lawer, lawer iawn, y tu hwnt i gost y bont mae'n debyg, oherwydd cafodd ei hadeiladu ym 1996. Felly, rhannaf ei longyfarchiad, os mai dyna'r gair, i Lywodraeth y DU ar ddiddymu'r tollau, ond mae wedi cymryd yn ddigon hir iddyn nhw wneud hynny. Hynny yw, roedd y gostyngiad i'r tollau yn llwyr oherwydd y ffaith nad oedd modd codi TAW arnyn nhw mwyach. Nid oedd yn rhyw fath o haelioni a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU o ran y tollau eu hunain. Ond, oes, mae cyfleoedd nawr, wrth gwrs, i ni oresgyn yr hyn sydd wedi bod yn rhwystr seicolegol i fuddsoddwyr sy'n edrych ar Gymru a gwneud yn siŵr ein bod ni'n parhau gyda'n llwyddiant mawr yr ydym ni wedi ei gael gyda buddsoddiad uniongyrchol o dramor a gwella'r ffigurau hynny dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.