Seilwaith

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Ceidwadwyr 2:10, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n dod i gwestiwn. Codwyd y cwestiwn am enw'r bont droeon, ond onid yw'n bwysicach, Prif Weinidog, bod y tollau ar y bont honno wedi cael eu gostwng ac yn mynd i gael eu ddiddymu yn ddiweddarach eleni? Beth bynnag fo'ch barn am enw'r bont—mae rhai o'i blaid, mae rhai yn erbyn—onid yw'n ffaith bod pobl bellach yn mynd i allu dod i Gymru a gadael Cymru, heb dalu'r hyn y mae llawer yn y Siambr hon wedi ei alw'n dreth ers cymaint o flynyddoedd? Mae hynny i'w groesawu. Mae hynny oherwydd Llywodraeth bresennol y DU.