Tlodi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Llafur 2:15, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym ni wedi sicrhau bod grant o £500,000 y flwyddyn ar gael i CLlLC ers 2017 i gefnogi'r rhaglen Food and Fun—Bwyd a Hwyl. Cafodd ei redeg mewn 38 o ysgolion y llynedd, yn cwmpasu 12 awdurdod lleol a phob un o'r saith bwrdd iechyd lleol, gyda tua 1,500 o blant yn elwa ar y rhaglen. Rhagwelir y bydd rhaglen 2018 yn rhedeg mewn oddeutu 60 o ysgolion. Bydd yn cwmpasu 16 o awdurdodau lleol, ac, unwaith eto, pob ardal BILl. Yr arwyddion yw y bydd amcangyfrif o 3,000 o ddysgwyr yn mynychu'r cynllun yr haf hwn.