Trafnidiaeth Gyhoeddus

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Ceidwadwyr 1:57, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ers 2010, mae gwariant ar ddarpariaeth bysiau gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng gan 20 y cant ac mae nifer y gwasanaethau bysiau cofrestredig yng Nghymru yn parhau i ostwng. Mae hyn yn sicr yn cael effaith ledled Cymru gyfan, ond yn enwedig yng Nghymru wledig, byddwn i'n awgrymu. Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog: beth ydych chi'n ei wneud i ddatrys yr argyfwng hwn yng Nghymru? Ac a ydych chi'n cytuno â mi mai'r hyn y mae teithwyr yng Nghymru ei eisiau yw rhwydwaith bysiau, yn arbennig, glanach, mwy diogel a mwy dibynadwy, sy'n cael ei werthfawrogi a'i ariannu'n briodol gan Lywodraeth Cymru?