Dyfodol Ynni’r Môr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Llafur 2:01, 3 Gorffennaf 2018

Mae'n wir i ddweud fod y swm o arian yna ddim yn swm a oedd wedi'i benodi'n uniongyrchol i Abertawe, er bod ei eisiau fe ar y pryd. Rydym ni yn ystyried ym mha ffyrdd y gallwn ni helpu technolegau ar draws Cymru, yn enwedig y morlyn yn y gogledd, er mwyn gweld beth allwn ni ei wneud fel Llywodraeth er mwyn cefnogi'r dechnoleg. Ond, mae'n rhaid inni ystyried ynglŷn â'r arian mawr, sef yr arian byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gallu dodi mewn i forlyn Abertawe, er enghraifft, fod hynny'n rhywbeth nad yw wedi ei ddatganoli. Ond, mae'n wir i ddweud ein bod ni'n dal i ystyried ym mha ffyrdd y gallwn ni gefnogi'r technolegau yn y pen draw.