Adroddiad 'Cadernid Meddwl'

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Llafur 1:33, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Cyhoeddwyd ein hymateb ar 27 Mehefin. Mae yn cydnabod, yr adroddiad gwreiddiol, y cynnydd a wnaed, ond nid oes unrhyw amheuaeth bod mwy y mae angen ei wneud i wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddwn yn archwilio'n ofalus iawn yr argymhellion hynny yr ydym ni wedi eu derbyn mewn egwyddor ac yn edrych yn ofalus iawn ar beth arall y gallem ni ei wneud er mwyn rhoi sicrwydd i'r pwyllgor a'r adroddiad y mae wedi ei lunio.