Diogelwch Tân mewn Blociau Uchel

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Llafur 1:32, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, na, mae hynny'n gwbl anghywir. Cafwyd cyfarfodydd â sefydliadau. Rydych chi'n iawn i ddweud bod rhai cwmnïau rheoli wedi eu cyfansoddi'n llwyr o breswylwyr mewn adeilad. Mae'n rhaid iddynt hwythau ystyried yr atebolrwydd hefyd o dan yr amgylchiadau hynny. Mae'n fantais i'r rhai hynny sy'n byw yn yr adeilad gan eu bod nhw'n teimlo bod ganddyn nhw fwy o reolaeth dros ran cymunedol yr adeilad, ond ceir anfanteision, yn enwedig pan ddaw i atebolrwydd.

Byddwn, wrth gwrs, yn gweithio gyda sefydliadau preswylwyr. Gallaf ddweud bod y Gweinidog eisoes wedi cael cyfarfod adeiladol gyda chynrychiolwyr y cwmni rheoli preswylwyr, y datblygwr ac asiantau rheoli nifer o'r adeiladau yr ydym ni'n sôn amdanynt. Byddwn yn parhau i gynnal y cyfarfodydd hynny i weld pa gymorth y gellid ei ddarparu lle ceir anhawster gwirioneddol cyn belled ag y mae rhai preswylwyr yn y cwestiwn er mwyn gwneud adeiladau yn fwy diogel.