Adroddiad 'Cadernid Meddwl'

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Llafur 1:37, 3 Gorffennaf 2018

Wel, os oes eisiau gwneud hynny, fe wnaf i hynny, wrth gwrs, yn enwedig gyda CAMHS. Fel rhywun sydd â phrofiad agos gyda CAMHS, a gwybod am a gweld rhai o'r problemau mae rhai pobl wedi cael ynglŷn â'u plant yn enwedig, mae hyn yn rhywbeth rydw i'n moyn sicrhau sy'n cael ei yrru ymlaen. A gaf i ddweud hyn wrth Aelodau: fe fyddaf i'n cymryd ystyriaeth, wrth gwrs, o'r ddadl fory ac, wrth gwrs, bydd y Llywodraeth yn ymateb fory, a hefyd ar ôl fory, er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu cryfhau'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl?