Adroddiad 'Cadernid Meddwl'

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 1:35, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rydych chi'n gwbl ymwybodol o fy mhryder mawr ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i 'Cadernid meddwl'. Nawr, nid wyf i eisiau achub y blaen ar y ddadl yn y pwyllgor yfory, gan na fyddai'n bosibl gwneud cyfiawnder â'r mater hwn mewn cwestiwn, ond a gaf i ofyn i chi roi eich sicrwydd i mi y gwnewch chi ystyried yn ofalus iawn yr hyn sy'n digwydd yn y ddadl honno yfory, gyda'r nod o sicrhau ein bod ni wir yn cael y newid sylweddol sydd mor daer ei angen arnom ni ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc?