5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am ar 15 Tachwedd 2017.
Andrew RT Davies
Ceidwadwyr
2. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a oedd yn ymwybodol o honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014, o ystyried ei ymateb i gwestiwn ysgrifenedig ym mis Tachwedd 2014 a oedd yn nodi na chafodd unrhyw honiadau eu gwneud? 63
Carwyn Jones
Llafur
3:10,
15 Tachwedd 2017
Nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at yr atebion a roddais ddoe, ac rwy'n ailadrodd y gwahoddiad a roddais bryd hynny.
Andrew RT Davies
Ceidwadwyr
Rwy'n ddiolchgar am yr ateb a roesoch ddoe, Brif Weinidog, yn cydnabod bod honiadau wedi'u gwneud ac wedi cael sylw, fel y nodwyd gennych yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Hoffwn gael mwy o eglurder ynglŷn â'r gydnabyddiaeth honno drwy'r cwestiwn hwn heddiw, a hoffwn wybod pryd y daethoch yn ymwybodol o'r honiadau y mae'r cyn-Weinidog Leighton Andrews a'r uwch gynghorydd arbennig Steve Jones wedi'u nodi—ac wedi'u nodi'n benodol. Hoffwn ddeall pwy a ymchwiliodd i'r honiadau hynny a hefyd pa gasgliadau, ac yn bwysig, pa gamau a gymerwyd gennych chi neu gan rywun a ddirprwywyd gennych i ymdrin ag unrhyw bwyntiau dilynol a oedd yn ofynnol o'r adroddiad a luniwyd ganddynt.
Carwyn Jones
Llafur
3:11,
15 Tachwedd 2017
Fel y dywedais, nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at yr atebion rwyf eisoes wedi'u rhoi, ond unwaith eto, wrth gwrs, rwy'n ailadrodd y gwahoddiad a roddais ddoe, os oes unrhyw un yn dymuno cyflwyno rhagor o wybodaeth.
Jenny Rathbone
Llafur
Prif Weinidog, a yw'n bosibl cadarnhau faint o bobl sydd wedi mynegi pryderon ynglŷn â bwlio o fewn y Llywodraeth ers i chi ddod i'r swydd yn 2009?
Carwyn Jones
Llafur
3:12,
15 Tachwedd 2017
Ni ddeuthum i'r swydd yn 2005, ond serch hynny—[Torri ar draws.] Fe ddywedoch 2009. Mae'n ddrwg gennyf. O ran yr ateb i'r cwestiwn, bydd llawer o'r rheini'n faterion adnoddau dynol y bydd yr Ysgrifennydd Parhaol mewn sefyllfa well i'w ateb.
Andrew RT Davies
Ceidwadwyr
A gaf fi nodi pwynt o drefn?
Elin Jones
Plaid Cymru
Wel, dywedwch yn gyflym, cyn i mi—
Andrew RT Davies
Ceidwadwyr
Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Llywydd roi rhyw gyfarwyddyd ynglŷn ag union bwynt gofyn cwestiynau pan nad ydych yn cael ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet ar faterion penodol sydd o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd ac sy'n faterion o ddiddordeb cyhoeddus yn yr ystyr eu bod wedi eu cofnodi ers peth amser a'u bod yn ymwneud ag achosion penodol sydd dan reolaeth uniongyrchol y Prif Weinidog. Buaswn yn ddiolchgar am unrhyw eglurder y gallwch ei roi i ni ynglŷn â diben hynny.
Elin Jones
Plaid Cymru
Nid yw hwnnw'n bwynt o drefn, ac mae'r Prif Weinidog wedi ateb eich cwestiwn.
Darren Millar
Ceidwadwyr
Llywydd, a gaf fi nodi pwynt o drefn, os gwelwch yn dda?
Elin Jones
Plaid Cymru
Na. Symudwn ymlaen at y—
Darren Millar
Ceidwadwyr
Mae fy nghwestiwn yn uniongyrchol—
Elin Jones
Plaid Cymru
Rwy'n symud ymlaen at y cwestiwn nesaf—[Torri ar draws.] Rwy'n symud ymlaen at y cwestiwn nesaf—Jane Hutt.
The cabinet is the group of twenty or so (and no more than 22) senior government ministers who are responsible for running the departments of state and deciding government policy.
It is chaired by the prime minister.
The cabinet is bound by collective responsibility, which means that all its members must abide by and defend the decisions it takes, despite any private doubts that they might have.
Cabinet ministers are appointed by the prime minister and chosen from MPs or peers of the governing party.
However, during periods of national emergency, or when no single party gains a large enough majority to govern alone, coalition governments have been formed with cabinets containing members from more than one political party.
War cabinets have sometimes been formed with a much smaller membership than the full cabinet.
From time to time the prime minister will reorganise the cabinet in order to bring in new members, or to move existing members around. This reorganisation is known as a cabinet re-shuffle.
The cabinet normally meets once a week in the cabinet room at Downing Street.