2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am ar 15 Tachwedd 2017.
Darren Millar
Ceidwadwyr
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gofal brys yng Nghymru? OAQ51258
Vaughan Gething
Llafur
2:59,
15 Tachwedd 2017
Rydym yn parhau'n ymrwymedig i wella gwasanaethau iechyd brys ledled Cymru. Rwyf wedi dweud yn glir wrth y byrddau iechyd fy mod yn disgwyl y bydd perfformiad yn gwella, yn enwedig wrth i'r gaeaf nesáu. Wrth gwrs, rwyf wedi gwneud datganiad heddiw ynglŷn â pharatoadau ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau i gyd-fynd â lansiad ymgyrch Dewis Doeth y gaeaf hwn.
Darren Millar
Ceidwadwyr
Mae arnaf ofn fod eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, yn druenus o annigonol, oherwydd yr un bwrdd iechyd rydych yn uniongyrchol gyfrifol amdano yw'r bwrdd iechyd sy'n perfformio waethaf o ran ei ofal brys a'i berfformiad yn erbyn targed Llywodraeth Cymru ei hun o drin cleifion brys o fewn pedair awr. Yn wir, fy ysbyty lleol, Ysbyty Glan Clwyd, yw'r ysbyty sy'n perfformio waethaf yng Nghymru yn erbyn y targed hwnnw, gydag ychydig dros 66 y cant o gleifion yn mynd i mewn ac allan o'r adran ddamweiniau ac achosion brys benodol honno o fewn pedair awr. Os oes angen i chi ddangos arweinyddiaeth, ac rwy'n credu bod, mae angen i chi roi trefn ar tŷ eich hun ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Vaughan Gething
Llafur
3:00,
15 Tachwedd 2017
Rydym yn cydnabod bod y perfformiad mewn rhai rhannau o'n system yn annerbyniol. Mewn gwirionedd rydym wedi buddsoddi swm sylweddol o gyfalaf ar gyfer darparu uned ddamweiniau ac achosion brys newydd yn Ysbyty Glan Clwyd. Ac mae'n her i ni ddeall nid yn unig natur y galw, ond hefyd beth sydd angen i ni ei wneud y tu allan i'r ysbyty gyda'n system gofal cymdeithasol a'r arweinyddiaeth glinigol sydd ei hangen ym mhob un o'r ardaloedd hynny ac ar draws y bwrdd iechyd.
Dyma'r her a bennwyd ar gyfer y bwrdd iechyd hwnnw. Maent yn deall yr her yn dda iawn. Maent yn deall nad wyf yn credu bod eu perfformiad cyfredol yn dderbyniol. Rwyf wedi cyfarfod yn uniongyrchol gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr i ailadrodd fy mod yn disgwyl na fydd y perfformiad annerbyniol yn parhau. A'r her—[Torri ar draws.] A'r her i bob un ohonom yw canfod pa atebion y gallwn eu rhoi ar waith a deall pam fod darlun mwy llwyddiannus wedi'i beintio mewn gwahanol rannau o'r wlad a hynny, yn fras, o dan yr un amodau.
Yr hyn rydym yn ceisio ei wneud gyda'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys—wrth gwrs, mae is-lywydd cyfredol Cymru wedi'i leoli yn Wrecsam—yw deall a allwn oroesi'r gaeaf hwn gyda gwelliant parhaus mewn perfformiad, oherwydd mewn gwirionedd, yr hyn a welwn yng ngogledd Cymru yw lefelau'n codi a disgyn yn rheolaidd; nid oes darlun cyson o berfformiad a gwelliant.
Yr hyn sy'n fy nghalonogi am ogledd Cymru a'i allu i gyrraedd lle gwahanol yn y dyfodol yw, nid yn unig yr ymrwymiadau a roddwyd i mi o fewn y bwrdd iechyd, ond mewn gwirionedd y ffaith bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi gweld gwelliant sylweddol ei hun sydd wedi cael ei gynnal dros ail hanner y flwyddyn hon. Ond nid wyf yn esgus fod pethau fel y dylent fod. Nid wyf yn esgus ei fod yn dderbyniol, ac rwy'n disgwyl wynebu mwy o gwestiynau yn y lle hwn hyd nes y bydd perfformiad yn gwella ac yn cael ei gynnal.
The cabinet is the group of twenty or so (and no more than 22) senior government ministers who are responsible for running the departments of state and deciding government policy.
It is chaired by the prime minister.
The cabinet is bound by collective responsibility, which means that all its members must abide by and defend the decisions it takes, despite any private doubts that they might have.
Cabinet ministers are appointed by the prime minister and chosen from MPs or peers of the governing party.
However, during periods of national emergency, or when no single party gains a large enough majority to govern alone, coalition governments have been formed with cabinets containing members from more than one political party.
War cabinets have sometimes been formed with a much smaller membership than the full cabinet.
From time to time the prime minister will reorganise the cabinet in order to bring in new members, or to move existing members around. This reorganisation is known as a cabinet re-shuffle.
The cabinet normally meets once a week in the cabinet room at Downing Street.