Papur Gwyn y Gymraeg

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

12. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch Papur Gwyn y Gymraeg? OAQ51289

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur 2:14, 15 Tachwedd 2017

Wel, nid wyf yn Ysgrifennydd Cabinet, ond fe wnaf i ymateb i'r cwestiwn, a hynny yw bod yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, wrth gwrs, wedi dod i ben tua 15 diwrnod yn ôl. Mae amser gyda ni nawr i fynd drwy'r ymatebion ac fe fyddwn ni'n dod â rhyw fath o ymateb yn ystod yr wythnosau nesaf.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

Yr arferiad, rydw i'n credu, yw cyfeirio cwestiwn at Ysgrifennydd y Cabinet

Roedd y Gweinidog wedi cyfeirio ddoe at yr angen am dystiolaeth nawr ar gyfer y modelau gorau ar gyfer rheoleiddio iaith. A dweud y gwir, rwy'n credu bod y Gweinidog blaenorol ond wedi medru cyfeirio at adroddiad o Dŷ'r Arglwyddi—un cyffredinol ynglŷn â rheoleiddio yn mynd nôl i 2004. Felly, mae yna ddiffyg sail dystiolaethol sicr wedi bod. A ydy'r Gweinidog yn gallu esbonio'r math o dystiolaeth, yn edrych ar arferion gorau o ran modelau rheoleiddio iaith ar draws y byd, y byddwch chi nawr yn ei chomisiynu?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur 2:15, 15 Tachwedd 2017

Wel, rydw i'n meddwl beth sydd angen inni edrych arno yw ble mae'r llwyddiant wedi bod ynghylch twf iaith. Mae yna enghreifftiau yn Ewrop: mae Gwlad y Basg, er enghraifft, wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rydw i'n siŵr bod yna enghreifftiau eraill. Byddaf i'n mynd ati nawr i edrych ar y rheini. Ond beth sy'n bwysig, rydw i'n meddwl, yw ein bod ni jest yn cadw'n golwg ni ar—. Mae'n gwestiwn o flaenoriaethau. Dyna beth oedd Nye Bevan yn dweud—mae'n rhaid ichi jest roi blaenoriaeth i bethau. Yn fwy pwysig i fi nag unrhyw beth arall yw ein bod ni'n cadw llygad ar yr 1 miliwn yma. Felly, i fi, mae'n bwysicach ein bod ni'n canolbwyntio ar hyn o bryd ar addysg a beth ydym ni'n mynd i'w roi mewn lle ar addysg. Wrth gwrs bod yn rhaid inni edrych ar safonau. Mae yna safonau yn dod allan, ond o ran y blaenoriaethau, rydw i jest eisiau cadw llygad ar y rheini.

Cabinet

The cabinet is the group of twenty or so (and no more than 22) senior government ministers who are responsible for running the departments of state and deciding government policy.

It is chaired by the prime minister.

The cabinet is bound by collective responsibility, which means that all its members must abide by and defend the decisions it takes, despite any private doubts that they might have.

Cabinet ministers are appointed by the prime minister and chosen from MPs or peers of the governing party.

However, during periods of national emergency, or when no single party gains a large enough majority to govern alone, coalition governments have been formed with cabinets containing members from more than one political party.

War cabinets have sometimes been formed with a much smaller membership than the full cabinet.

From time to time the prime minister will reorganise the cabinet in order to bring in new members, or to move existing members around. This reorganisation is known as a cabinet re-shuffle.

The cabinet normally meets once a week in the cabinet room at Downing Street.