Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau heddiw am eu cyfraniadau, yn enwedig i Lee Waters am gyflwyno’r ddadl hon, i Dai Lloyd, Vikki Howells, Jeremy Miles a David Rowlands, a hefyd David Melding a Rhianon Passmore a gynigiodd gyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol ehangach, rwy’n meddwl, i’r heriau a’r risgiau sy’n ein hwynebu. Roedd cyfeiriad David Melding at rym trefniadol canolog llafur yn fy atgoffa o astudiaethau o waith Max Weber ar y foeseg waith Brotestanaidd, ond mae’r pwynt penodol a gâi ei wneud ynglŷn â natur wythnos waith argymelledig efallai’n cynnig testun arall ar gyfer dadl Aelod unigol, yn dilyn ymlaen o’r hyn sydd wedi bod yn thema glir a chryf yn ddiweddar, sef natur gwaith yn yr unfed ganrif ar hugain—yr economi las, yr economi sylfaenol, a heddiw, y pedwerydd chwyldro diwydiannol.
Mae’r ddadl hon hefyd yn gorgyffwrdd â llawer o’r sgyrsiau a gefais dros yr ychydig fisoedd diwethaf mewn perthynas â’n hymagwedd bresennol at ddatblygu economaidd a sut y mae’n rhaid i hynny newid yn y blynyddoedd i ddod.
Mae’r cynnig yn cyfeirio at amcangyfrif Banc Lloegr o’r 700,000 o swyddi, dros y ddau ddegawd nesaf, a allai fod mewn perygl o ganlyniad i awtomatiaeth. Nawr, nid yw’r ffigurau a ddyfynnir yn arwydd o swyddi a gollir, ond o gyflogaeth yr effeithir arni. O ran gweithgynhyrchu, gwyddom y gall llawer o swyddi cydosod gael eu disodli gan awtomatiaeth a chan robotiaid. Er hynny bydd swyddi newydd yn cael eu creu mewn swyddogaethau megis caffael, megis rhaglennu, dadansoddi data a chynnal a chadw, ymhlith eraill. Ond yr allwedd i ni fel gwneuthurwyr polisi yw sicrhau bod digon o gyfleoedd yn dod i’r amlwg yn yr economi newydd i gymryd lle’r rhai a allai gael eu colli yn yr hen economi ac i sicrhau bod pobl ar draws Cymru ym mhob cymuned yn meddu ar y sgiliau i fanteisio arnynt.
Ond wrth gwrs, mae’r effaith yn mynd yn llawer ehangach na gweithgynhyrchu. Caiff yr effaith ei gweld mewn llawer o sectorau, yn enwedig y sector gwasanaeth ac er enghraifft, y newyddion diweddar am gau nifer o ganghennau o fanciau yn sgil y nifer cynyddol o gwsmeriaid sydd bellach yn defnyddio bancio ar y rhyngrwyd. Mae cyflymder datblygiadau technolegol cyfredol yn gwneud asesiad o’r effaith ar swyddi yng Nghymru yn anodd.
Ac mae yna ffactorau eraill i’w hystyried hefyd, megis yr effaith y bydd y pedwerydd chwyldro diwydiannol, gydag awtomatiaeth, roboteg a digideiddio, yn ei chael ar gynhyrchiant a sut y bydd hynny’n wedyn yn effeithio ar gyflogaeth. Nawr, siaradodd Lee Waters am y cynnydd posibl mewn cynhyrchiant a allai arwain at wneud y cwmnïau hyn yn fwy cystadleuol, ac ennill mwy o fusnes a chyfran gynyddol o’r farchnad o’r herwydd. Mae cystadleurwydd cynyddol a llai o gostau yn arwain at gynnydd mewn cyflogaeth yn hirdymor, er y gall swyddi gael eu colli yn y tymor byr, ond mae’n dibynnu’n llwyr ar ein penderfyniad i dderbyn a manteisio’n llawn ar dechnolegau digidol newydd a rhai sy’n datblygu, ac i arfogi pobl â’r sgiliau i wneud hynny, fel yr amlinellodd Vikki Howells a Rhianon Passmore.
Nawr, rwyf wedi bod yn cael adroddiadau ar effaith diwydiant 4.0 gan Diwydiant Cymru, sefydliad trosfwaol ar gyfer y diwydiannau awyrofod, modurol a thechnoleg yng Nghymru. Comisiynodd Diwydiant Cymru adroddiad annibynnol ar effaith a chyfleoedd posibl sector gweithgynhyrchu’r genhedlaeth nesaf a sut y mae angen i gymuned diwydiant gweithgynhyrchu Cymru baratoi. Mae wedi cynhyrchu adroddiad gweithgynhyrchu’r genhedlaeth nesaf 2016, sy’n mynd i’r afael â’r materion hyn gyda ffocws ar Gymru, ac mae’r risgiau a’r cyfleoedd yn real tu hwnt.
Rydym yn mynd i’r afael â’r rhain gyda chymorth arbenigedd a ddarperir gan Diwydiant Cymru, a chyrff academaidd a diwydiant i sefydlu gweledigaeth weithgynhyrchu ar gyfer Cymru. Mae’r manteision economaidd sy’n deillio o dechnoleg ddigidol yn cael eu cydnabod yn gynyddol gan y diwydiant gydag adroddiad diweddar gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain yn datgan bod 94 y cant o fusnesau’n cytuno bod technolegau digidol yn ysgogiad allweddol i gynnydd mewn cynhyrchiant, twf economaidd a chreu swyddi. Mae swyddi’n canoli fwyfwy ar dechnoleg ddigidol, a bydd manteisio ar hyn yn sicrhau Cymru ffyniannus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae technolegau saernïo digidol eisoes yn rhyngweithio â’r byd biolegol. Cyd-Aelodau, nid yw’n mynd i fod yn hir cyn y cawn losin jeli a gynhyrchir gan argraffydd 3D, ac nid yw’n afresymol credu y gallem, yn ystod ein hoes, weld argraffiad 3D o organau’r corff. Felly, mae’r angen am fusnesau hynod gymwys ac arloesol yng Nghymru yn uwch nag erioed o’r blaen. Mae ein strategaeth arloesi ‘Arloesi Cymru’ yn helpu Cymru i archwilio cyfleoedd busnes sy’n torri tir newydd o safbwynt datblygu cynnyrch, arallgyfeirio a llwybrau newydd i’r farchnad, ac mae’n helpu i sicrhau bod arloesi yn alluogwr mawr i Gymru. Ond o ystyried natur arloesedd, fel yr amlinellwyd gan lawer o’r Aelodau heddiw, yn anochel, mae angen i’r strategaeth esblygu’n gyflym ac mae wedi ei chynllunio i fod mor hyblyg â phosibl, wrth inni symud ymlaen.
Byddwn yn cytuno â David Rowlands a Dai Lloyd, a ddywedodd fod yn rhaid i’r arloeswyr oresgyn y Ludiaid yn y bôn a bod yn rhaid i’r rhai sy’n edrych at y dyfodol, oresgyn y rhai sy’n glynu at y gorffennol. Ond byddwn hefyd yn dweud bod angen cysuro’r rhai sy’n amheus ynglŷn â thechnolegau digidol newydd ac sy’n datblygu eu bod yno i ni fanteisio arnynt a’u defnyddio, yn hytrach na’u hofni.
Nawr, mae pwynt olaf y cynnig yn cyfeirio at ddatblygu’r strategaeth economaidd, ac yn ein heconomi rydym yn dal i wynebu heriau mawr. Gyda chynhyrchiant is na gweddill y DU ac anweithgarwch economaidd ar lefel uwch, rydym yn wynebu cwestiynau strwythurol pwysig ynglŷn â sut i gael gwaith i fwy o bobl, yn ogystal â’r sgiliau i gamu ymlaen i swyddi sy’n talu’n well, a fydd, wrth gwrs, yn hanfodol i osgoi colledion swyddi net yn ystod diwydiant 4.0. Un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu yw mynd i’r afael â’r gwahaniaethau rhanbarthol yn ein heconomi a sicrhau bod manteision twf wedi’u gwasgaru’n decach ar draws Cymru. Un arall yw diogelu ein heconomi a’n gweithlu ar gyfer y dyfodol; bydd angen y ddau i leihau anghydraddoldebau lles a chyfoeth ledled Cymru, gan wella’r ddau yn gyffredinol. Rwy’n credu y bydd cyflawni’r amcanion hyn yn galw am benderfyniadau anodd gan y Llywodraeth, ac ymdrech ar y cyd a fydd yn herio, mewn sawl ffordd, y modd y mae pobl yn arfer gwneud a gweld pethau. Ond fel y dywedais ddoe, mae gan Lywodraethau ddyletswydd i herio confensiwn lle y mae confensiwn yn creu risg o danseilio cyfoeth a lles pobl, ac rwy’n credu bod Jeremy Miles wedi amlinellu yn ei gyfraniad sut y mae angen i ni ddechrau ystyried gwahanol ffyrdd o weithio, gwahanol arferion gweithio, nid yn unig er mwyn sicrhau manteision economaidd, ond hefyd i sicrhau gwelliannau o ran ein lles.
Rwy’n awyddus, fel rhan o’r strategaeth economaidd sy’n dod i’r amlwg, i edrych ar nifer llai o sectorau cenedlaethol economaidd sylfaenol megis iechyd, gofal ac ynni, y gall Llywodraeth Cymru roi arweiniad wrth eu cefnogi. Ac oddi tanynt, hoffwn edrych ar ein heconomïau rhanbarthol drwy rymuso pob un i ddatblygu sectorau arbenigol a hunaniaeth economaidd fwy penodol, ond ar y ddwy lefel, bydd angen cael prawf amlwg fod ein hymyriadau a’n buddsoddiad yn canolbwyntio ar feysydd gweithgaredd yn yr economi sydd wedi cael, neu a allai gael eu diogelu at y dyfodol. Rydym yn wynebu heriau economaidd mawr, a byddant yn dwysáu pan fyddwn yn gadael yr UE gyda mwy o ansefydlogrwydd byd-eang, toriadau lles a chaledi Llywodraeth y DU ac wrth gwrs, prif bwnc y ddadl heddiw, y pedwerydd chwyldro. Wrth ddatrys heriau yn y dyfodol ac addasu i fyd sy’n newid yn gyson, mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu pontydd rhwng pobl fel y gallwn ddatblygu gwybodaeth ac atebion ar gyfer y dyfodol. Felly, oes, mae yna heriau, ond gadewch i ni fod yn berffaith sicr ein bod am fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan y pedwerydd chwyldro. Felly, rwy’n croesawu cyfraniadau pob Aelod i’r drafodaeth heddiw yn fawr iawn.