Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 5 Ebrill 2017.
Mae yna demtasiwn, wrth gwrs, wrth fynd i’r afael â’r cynnig hwn i ystyried ei gymhwysedd—maddeuwch y gair hwn—Ludaidd. Fodd bynnag, dylwn ddatgan yn y lle cyntaf fy mod yn credu bod gwerth enfawr i’r ddadl hon o ran ceisio mynd i’r afael â’r mater pwysig hwn mewn ffordd adeiladol a meddylgar.
Mae’n wir dweud bod y defnydd cynyddol o roboteg, boed ar ffurf tiliau awtomataidd neu fecaneiddio llinellau cydosod, yn her go iawn i’r rhai sy’n ymwneud â diogelu a hyd yn oed cynyddu swyddi ar draws y sector diwydiannol, y sector manwerthu, a’r sector cyhoeddus yn wir, yn eu cyfanrwydd. Mae’r sector bancio yn croesawu technoleg seiber yn llwyr, ar draul staff cownter a phersonél gwasanaethau cwsmeriaid i raddau helaeth, a cheir llu o enghreifftiau eraill ar draws sylfaen economaidd eang lle y mae awtomatiaeth yn dechrau effeithio ar swyddi a wneir yn draddodiadol gan bobl.
Felly, a ydym i ymateb fel Ludiaid, neu a oes ateb arall? Rwy’n meddwl bod y cynigion a nodir yn y ddadl hon yn rhoi dewis arall cadarnhaol yn hytrach na dyfodol llwm o ran cyfleoedd gwaith. Yn y bôn, yr hyn yw’r pedwerydd chwyldro diwydiannol yw ystod o dechnolegau newydd sy’n effeithio ar bob disgyblaeth, economi a diwydiant, ac ar eu gwaethaf, maent yn herio syniadau am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddynol. Yr effaith sy’n deillio o hyn yw ein bod yn byw mewn cyfnod o addewid mawr, ond perygl mawr hefyd. Gyda rhwydweithiau digidol helaeth, mae gan y byd botensial i gysylltu biliynau’n fwy o bobl, a gallai hynny wella effeithlonrwydd cwmnïau’n ddramatig a rheoli asedau hyd yn oed mewn ffyrdd a all helpu i adfywio’r amgylchedd naturiol yr ydym yn byw ynddo. Mae ganddo botensial hefyd i ddadwneud llawer o ddifrod chwyldroadau diwydiannol blaenorol.
Dyma effeithiau cadarnhaol posibl y chwyldro diwydiannol newydd, ond mae yna lawer o senarios hefyd lle y caiff effaith ddifrifol o negyddol ar economïau byd-eang a’r bobl sy’n gweithio ynddynt. Ymhlith y rhain y mae gallu sefydliadau i addasu i’r newidiadau hyn, ac wrth gwrs, yr effaith ar y boblogaeth sy’n gweithio, yn enwedig yn y sectorau lled-fedrus a heb sgiliau, lle y mae technolegau robotig yn debygol o gael yr effaith fwyaf. Mae’n bosibl y gallai hyn waethygu anghydraddoldeb ymysg yr holl boblogaeth a chwalu strwythur cymdeithas hyd yn oed.
Felly, sut rydym ni yng Nghymru yn paratoi ein hunain ar gyfer y pedwerydd chwyldro diwydiannol? Fel y nodwyd yn y cynnig, amcangyfrifir y gallai cymaint â 700,000 o swyddi fod mewn perygl o ganlyniad i robotiaid yn cyflawni’r rolau hyn. Mae’n wir fod y peiriannau hyn bellach yn rhan o fywyd bob dydd, ac mae’n anochel y bydd diwydiannau, dros amser, yn ceisio’u defnyddio lle bynnag y bo modd cyfyngu ar lafur dynol costus. Mae’n eithriadol o bwysig fod Cymru’n paratoi ar gyfer y newidiadau hyn a bod ganddi strategaeth economaidd gref i fynd i’r afael â hwy. Mae’n rhaid i ni nodi felly ble y mae gan Gymru fantais gystadleuol a sut y gallwn fanteisio ar y sgiliau sydd gennym yng Nghymru eisoes.
Mae Cymru’n wlad amrywiol iawn, a gallwn bwyso ar hyn i gynorthwyo gyda’r newidiadau a ddaw yn sgil y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Er enghraifft, ceir sector twristiaeth cryf yng Nghymru—yn ddi-os, bydd angen mwy o ffocws a sylw yn y maes hwn. Mae’r sector lletygarwch yn un lle y mae’n anodd disodli’r elfen ddynol.
Rwy’n llwyr gymeradwyo pwyntiau 3, 4 a 5 yn y cynnig hwn, a hoffwn ailadrodd yr alwad am strategaethau economaidd hyblyg i ymdrin ag wyneb newidiol datblygiadau technolegol. Nid oes amheuaeth y bydd ein prifysgolion a’n canolfannau arloesi yn chwarae rôl allweddol yn helpu’r sector diwydiannol i ymdopi â’r gofynion newydd hyn. Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddyblu ei hymdrechion yn y sector hwn. Mae’n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn ailedrych ar y strategaeth ‘Arloesi Cymru’ er mwyn gwerthuso’r aflonyddwch sy’n ein hwynebu. Yn y pen draw, mae gan Gymru botensial i gynyddu goruchafiaeth ar y farchnad yn sgil datblygu strategaeth economaidd newydd.
I grynhoi, bydd Cymru, fel gwledydd eraill, yn wynebu galw cynyddol i gadw ei phobl mewn gwaith ystyrlon, ond mae gennym sgiliau, talent ac ethos gweithgar ein poblogaeth sy’n gweithio i’n cynorthwyo. Rydym hefyd yn endid bach hylaw yn economaidd, ac felly’n un a ddylai allu ymateb i’r gofynion newydd hyn mewn modd hyblyg ac amserol, ac un a ddylai’n hawdd allu manteisio hefyd ar y chwyldro technolegol newydd hwn. Cafodd Cymru ei gadael ar ôl gan y trydydd chwyldro diwydiannol. Ni allwn fforddio cael ein gadael ar ôl gan y pedwerydd.