<p>Diogelwch ar y Ffyrdd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 2:09, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am dynnu fy sylw at y mater penodol hwn? Er mawr gywilydd i mi, nid oeddwn yn ymwybodol o’r mater hwn tan heddiw, ond byddaf yn dod â swyddogion yr awdurdod lleol a swyddogion y cefnffyrdd at ei gilydd er mwyn archwilio sut y gellir datrys y broblem benodol hon, oherwydd ar sail yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud, nid yw’r her hon yn un na ellir ei goresgyn, ac yn anad dim, mae’n rhaid inni ystyried diogelwch beicwyr, a byddwn yn gwneud hynny.