<p>Diogelwch ar y Ffyrdd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 2:07, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Ac a gaf fi awgrymu fy mod yn ymweld â’r darn penodol hwnnw o’r A470 gyda’r Aelod? Yn ddiweddar, derbyniais sylwadau gan gyd-Aelod yr Aelod, Darren Millar, ynglŷn â ffordd debyg yn ei etholaeth ef. Bûm ar ymweliad safle yno, ac o ganlyniad, rydym bellach yn ystyried newid yr arwyddion, sy’n aml yn ddryslyd, ar y ffordd. Credaf ei bod yn hollol hanfodol ein bod yn dynodi’n glir i fodurwyr beth sy’n gyflymder diogel, yn hytrach na therfyn cyflymder yn unig. Lle y bo angen gostwng y terfyn cyflymder, byddwn yn gwneud hynny ar sail tystiolaeth, ond yn aml, hefyd, yn unol â phryderon y cymunedau lleol. Ond lle y bo angen rhagor o waith ar ffordd er mwyn sicrhau ei bod yn fwy diogel, rwy’n fwy na pharod i ystyried buddsoddi yn y seilwaith dan sylw.