<p>Diogelwch ar y Ffyrdd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Ceidwadwyr 2:06, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod cerbydau nwyddau trwm yn dod oddi ar y ffordd yn aml ar yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach, lle na cheir unrhyw rwystr ffordd neu balmant. Rydych eisoes wedi fy hysbysu eich bod yn bwriadu cynnal adolygiad arall o derfynau cyflymder ar gefnffyrdd yr haf hwn, gan roi blaenoriaeth i restr o safleoedd. Fodd bynnag, nid y terfyn cyflymder yw’r broblem yma, mewn gwirionedd, ond cynllun y ffordd a’r ffaith nad oes unrhyw arwyddion rhybudd neu rwystrau. Felly, a gaf fi ofyn: a wnewch chi sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn asesu mesurau ataliol eraill yn ogystal â gosod terfynau cyflymder ar y prif gefnffyrdd ledled canolbarth Cymru?