<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 1:57, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn ystod yr wythnosau nesaf, yn amlinellu fy ymateb i’r cynigion. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â Greg Clark yn bersonol a dweud wrtho’r hyn a ddywedais yn gyhoeddus, sef nad oes fawr o ddim i anghytuno yn ei gylch yn y strategaeth. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn rhai meysydd o’r strategaeth, yn enwedig y meysydd lle y gallem weld adnoddau ychwanegol yn dod i Gymru drwy gyllid ymchwil a datblygu ac arloesi, yn ogystal â thrwy gytundebau sector-benodol posibl. Y quid pro quo yw y bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu manylion y strategaeth ddiwydiannol, ac ar sail y trafodaethau a gefais gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, rwy’n hyderus y gallwn weithio’n agos gyda’n gilydd yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, nid yn unig er budd economi Cymru, ond economi Prydain gyfan.