6. 3. Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017

– Senedd Cymru am 3:01 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Llafur 3:01, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rydym nawr yn symud ymlaen i eitem 3 ar yr agenda, sef Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelio Hysbysiadau) (Cymru) 2017 (Diwygio), ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ i gynnig y cynnig. Jane Hutt.

Cynnig NDM6272 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur 3:01, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, mae'r rheoliadau sydd wedi eu gosod gerbron y Cynulliad i chi eu hystyried heddiw yn welliant i'r Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelio Hysbysiadau) (Cymru) 2011 presennol. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno yn unol â'r pwerau a nodir o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Roedd Rhan 6 o'r Ddeddf yn diwygio Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 i ddarparu pwerau ychwanegol i godi tâl ar gyfer trwyddedu morol yng Nghymru. Mae'r ddeddfwriaeth ddiwygio hon yn cwmpasu newidiadau bach technegol i ddarparu mecanwaith apelio ar gyfer hysbysiadau a gyhoeddwyd o ganlyniad i ddaliwr trwydded yn methu â chydymffurfio â'r gofyniad i dalu blaendal neu dâl ffi yn unol â phwerau codi tâl a sefydlwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Gellir cyflwyno hysbysiad i drwyddedai i amrywio, atal neu ddirymu trwydded forol. Bydd yr un gweithdrefnau a dulliau sy’n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer pob apêl rhybudd arall o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 yn berthnasol. Mae hwn yn rhan o becyn ehangach o ddeddfwriaeth i gyflwyno ffioedd a thaliadau newydd ar gyfer trwyddedu morol ar 1 Ebrill 2017. Bydd y ffioedd newydd, yr ydym yn bwriadu eu cyflwyno o 1 Ebrill eleni, 2017, ymysg canlyniadau cadarnhaol eraill, yn arwain at ddarpariaeth ehangach o wasanaethau cyn-ymgeisio a phennu ffioedd yn gymesur yn erbyn y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu.

Cafodd yr apeliadau yn erbyn hysbysiadau a'r cynigion ffioedd ehangach eu llunio i ddechrau drwy ymgysylltu’n agos â'r grŵp rhanddeiliaid trwyddedu morol, drwy ohebiaeth a gweithdy i randdeiliaid. Mae'r grŵp rhanddeiliaid yn cynrychioli'r sector morol, yn enwedig agregau, ynni adnewyddadwy, adeiladu, carthu, awdurdodau lleol a rheoleiddwyr trwyddedu morol eraill. Yna, roedd y cynigion yn destun ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar ddiwygio ffioedd trwyddedu morol a thaliadau cysylltiedig yng Nghymru rhwng 5 Medi 2016 a 28 Tachwedd 2016. Cynhaliwyd gweithdy arall i randdeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori. Roedd bron yr holl ymatebwyr yn cefnogi’r cynigion. Bydd y ffioedd a'r taliadau newydd yn cael eu hadolygu'n gyson, gyda gwelliant parhaus yn werth craidd, i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaeth trwyddedu morol effeithlon a chynaliadwy i bobl Cymru. Mae'r rheoliadau apelio hysbysiadau wedi’u diwygio yn sicrhau bod deiliaid trwydded yn gallu apelio yn erbyn hysbysiadau a gyflwynir am beidio â thalu ffioedd a blaendaliadau. Dirprwy Lywydd, rwy’n cymeradwyo’r rheoliadau hyn i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Photo of Ann Jones Ann Jones Llafur 3:03, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Does dim siaradwyr yn y ddadl hon. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Diolch. Felly, mae'r cynnig wedi’i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.