Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 28 Mawrth 2017.
Nick Ramsay
Ceidwadwyr
5:19,
28 Mawrth 2017
Diolch. Rwy'n falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud y sylwadau hynny. Roedd bwriad y gwelliant hwn yn dda, sef sicrhau bod Awdurdod Cyllid Cymru yn sefydliad effeithlon sydd yn ceisio darparu'r gwerth gorau am arian i'r trethdalwr. Dyna pam rydym yn awgrymu y gallai Llywodraeth Cymru ddarparu canllawiau. Fodd bynnag, mae hwn yn faes amwys, ac ar ôl gwrando ar fwriadau Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn rhannu rhai o'i bryderon mai’r peth olaf, mewn gwirionedd, yr ydym yn dymuno ei wneud yw cyfaddawdu ar fodel hyd braich Awdurdod Cyllid Cymru sy'n cael ei sefydlu. Rwy'n cydnabod y gellid ystyried bod y gwelliant hwn yn gwneud hynny dan rai amgylchiadau. Felly, croesawaf eich ymrwymiad i ysgrifennu at gadeirydd yr awdurdod newydd. Rwy’n credu hefyd, o ystyried bod y grŵp blaenorol, 13, a gwelliant 31, a gyflwynwyd gan Steffan Lewis, wedi ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru a gan y Cynulliad, bod hynny yn darparu mesur o ddiogelwch ac adolygu yn y cyfnod o chwe blynedd, rwy'n credu, a nodir yn y gwelliant hwnnw. Felly, mae hynny, ynghyd ag ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu gweithrediad parhaus Awdurdod Cyllid Cymru, yn golygu fy mod i'n hapus, gyda chaniatâd y Cynulliad, i dynnu'r gwelliant yn ôl, ond mae hynny'n fater i chi.
The cabinet is the group of twenty or so (and no more than 22) senior government ministers who are responsible for running the departments of state and deciding government policy.
It is chaired by the prime minister.
The cabinet is bound by collective responsibility, which means that all its members must abide by and defend the decisions it takes, despite any private doubts that they might have.
Cabinet ministers are appointed by the prime minister and chosen from MPs or peers of the governing party.
However, during periods of national emergency, or when no single party gains a large enough majority to govern alone, coalition governments have been formed with cabinets containing members from more than one political party.
War cabinets have sometimes been formed with a much smaller membership than the full cabinet.
From time to time the prime minister will reorganise the cabinet in order to bring in new members, or to move existing members around. This reorganisation is known as a cabinet re-shuffle.
The cabinet normally meets once a week in the cabinet room at Downing Street.