<p>Grŵp 14: Canllawiau gan Weinidogion Cymru i ACC ar Weinyddu Treth Trafodiadau Tir (Gwelliant 34)</p>

11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:13, 28 Mawrth 2017

Grŵp 14 nawr. Dyma’r grŵp olaf y prynhawn yma, ac mae’r grŵp yma’n ymwneud â chanllawiau gan Weinidogion Cymru i Awdurdod Cyllid Cymru ar weinyddu treth trafodiadau tir. Gwelliant 34 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y grŵp, ac rwy’n galw ar Nick Ramsay i gynnig ei welliant ac i siarad. Nick Ramsay.

Cynigiwyd gwelliant 34 (Nick Ramsay).

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Ceidwadwyr 5:14, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Clywais y gymeradwyaeth honno, Llywydd, pan wnaethoch chi gyhoeddi mai hwn oedd y grŵp olaf, felly byddaf yn fyr iawn. Mae’r unig welliant, y prif welliant, yr wyf yn dymuno’i gynnig, 34, yn y grŵp hwn, yn ymwneud â chynnwys adran newydd:

'Canllawiau. Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i'r ACC ynghylch mabwysiadu arfer gorau ar gyfer gweinyddu'r dreth trafodiadau tir. '

Y sail ar gyfer y gwelliant hwn—ac rwyf wedi trafod y peth i raddau ag Ysgrifennydd y Cabinet o'r blaen—mewn gwirionedd yw sicrhau gwerth am arian. Edrychwyd ar brofiad yr Alban, ac mae Llywodraeth yr Alban wedi rhoi gwybodaeth am yr Alban—wel, Cyllid yr Alban, dylwn i ddweud—yn rhannu swyddogaethau swyddfa gefn yn sgil Deddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (yr Alban) 2013 yn dod i rym yno. O ganlyniad i’r cyfyngiad ar gyllid cyhoeddus, yr ydym yn siarad amdano yn aml, a'r angen i ddarparu gwerth am arian, mae'r gwelliant hwn yn awgrymu y dylai Awdurdod Cyllid Cymru ddechrau fel y mae'n bwriadu parhau drwy rannu swyddogaethau swyddfa gefn neu ba bynnag fesurau arbed costau y gallai Llywodraeth Cymru ddisgwyl i’r awdurdod newydd eu cyflawni. Dyma beth sydd wrth wraidd y gwelliant—y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych am ffyrdd y gallai Awdurdod Cyllid Cymru fod yn effeithlon o'r cychwyn, y gallai fod yn effeithlon wrth symud ymlaen, ac y gallai yn y pen draw roi gwerth am arian i'r trethdalwr. Ar ôl dweud hynny, rwy’n awyddus i glywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud am y gwelliant hwn, ac rwy’n cadw meddwl agored i’w awgrymiadau.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn y mae Nick Ramsay wedi’i ddweud y prynhawn yma. Mae'n rhaid i mi gyfaddef bod fy nealltwriaeth i o’r gwelliant ychydig yn wahanol o ran ei brif ddiben a'r un yr ydym newydd ei glywed. Gwelliant yw hwn sy'n darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru yn rhoi canllawiau i Awdurdod Cyllid Cymru ar weinyddu’r dreth trafodiadau tir. Rwyf wedi dweud sawl gwaith yn ystod hynt y Bil fy mod i’n gyfan gwbl o blaid Awdurdod Cyllid Cymru yn darparu arweiniad cadarn i'w drethdalwyr, ei asiantau a'r Awdurdod ei hun. Mae'n amlwg yn arfer gorau i awdurdod treth sicrhau y gall ei gwsmeriaid a’i staff gydymffurfio â'u rhwymedigaethau.

Ni allaf ofyn i’r Aelodau ar fy ochr i bleidleisio dros y gwelliant hwn, fodd bynnag, oherwydd fy mod i’n ymwybodol iawn ei fod yn ymwneud â’r annibyniaeth weithredol glir hynod bwysig y mae angen i Awdurdod Cyllid Cymru ei chael ar y Llywodraeth. Hwn fydd ein hadran anweinidogol cyntaf. Mae aelodau'r Pwyllgor Cyllid yn gywir iawn yn nodi’r angen am drefniant hyd braich rhwng y Llywodraeth a'r Awdurdod fel sefydliad a fydd yn ymdrin â materion treth unigol dinasyddion preifat. Mae cael Llywodraeth Cymru yn rhoi canllawiau i'r Awdurdod, yn fy marn i, yn golygu tanseilio’r annibyniaeth sydd ei hangen. Rwy’n awyddus i weithredu mewn modd sy'n gyson â'r pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor Cyllid yn ystod hynt Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Yno, o ganlyniad i drafodaethau Cyfnod 2, mae'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi yn sicrhau bod gan Weinidogion Cymru y gallu i roi cyfarwyddyd strategol i Awdurdod Cyllid Cymru ar eu polisïau a’u blaenoriaethau treth, ond nid oes ganddynt bwerau—nid oes gan Weinidogion Cymru bwerau—i ddarparu unrhyw gyfarwyddyd sy'n benodol i Awdurdod Cyllid Cymru er mwyn sicrhau’r berthynas hyd braich annibynnol honno.

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod y prynhawn yma ar ôl ei glywed, fodd bynnag, yw fy mod i’n barod i ymrwymo ar gofnod i bwysigrwydd arweiniad gweithredol clir ar gyfer y dreth hon. Rwy'n hapus i ddweud y byddaf yn ysgrifennu at gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru pan fydd y penodiad wedi ei gadarnhau yn nodi fy nisgwyliadau bod yn rhaid i’r ddarpariaeth o ganllawiau cadarn fod yn flaenoriaeth allweddol i Awdurdod Cyllid Cymru. Ac ar ôl clywed y pwyntiau y mae’r Aelod wedi’u gwneud y prynhawn yma am weinyddiaeth effeithlon a rhannu gwasanaethau swyddfa gefn, rwy’n hapus iawn i sicrhau y byddaf yn codi’r pwynt hwnnw yn y llythyr y byddaf yn ei ysgrifennu at gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru, sydd, mewn ffordd, yn darparu cylch gwaith i’r cadeirydd i sicrhau bod yr Awdurdod yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau y mae'r pwyllgor a'r Llywodraeth yn dymuno eu gosod ar eu cyfer yn ystod y misoedd nesaf. Rwy'n hapus i roi’r sicrwydd hwnnw i'r Aelod y prynhawn yma, er, os daw’r mater i bleidlais, byddaf i’n pleidleisio yn ei erbyn.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud y sylwadau hynny. Roedd bwriad y gwelliant hwn yn dda, sef sicrhau bod Awdurdod Cyllid Cymru yn sefydliad effeithlon sydd yn ceisio darparu'r gwerth gorau am arian i'r trethdalwr. Dyna pam rydym yn awgrymu y gallai Llywodraeth Cymru ddarparu canllawiau. Fodd bynnag, mae hwn yn faes amwys, ac ar ôl gwrando ar fwriadau Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn rhannu rhai o'i bryderon mai’r peth olaf, mewn gwirionedd, yr ydym yn dymuno ei wneud yw cyfaddawdu ar fodel hyd braich Awdurdod Cyllid Cymru sy'n cael ei sefydlu. Rwy'n cydnabod y gellid ystyried bod y gwelliant hwn yn gwneud hynny dan rai amgylchiadau. Felly, croesawaf eich ymrwymiad i ysgrifennu at gadeirydd yr awdurdod newydd. Rwy’n credu hefyd, o ystyried bod y grŵp blaenorol, 13, a gwelliant 31, a gyflwynwyd gan Steffan Lewis, wedi ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru a gan y Cynulliad, bod hynny yn darparu mesur o ddiogelwch ac adolygu yn y cyfnod o chwe blynedd, rwy'n credu, a nodir yn y gwelliant hwnnw. Felly, mae hynny, ynghyd ag ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu gweithrediad parhaus Awdurdod Cyllid Cymru, yn golygu fy mod i'n hapus, gyda chaniatâd y Cynulliad, i dynnu'r gwelliant yn ôl, ond mae hynny'n fater i chi.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:20, 28 Mawrth 2017

Mae gwelliant 34 felly wedi ei dynnu yn ôl gan yr Aelod. Os nad oes yna unrhyw wrthwynebiad i hynny, yna mae’r gwelliant wedi ei dynnu yn ôl.

Tynnwyd gwelliant 34 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:21, 28 Mawrth 2017

Rŷm ni felly wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). Rwy’n datgan felly y bernir bod pob adran o’r Bil a phob Atodlen wedi’u derbyn. Daw hynny â thrafodion Cyfnod 3 â thrafodion heddiw i ben.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:21.