<p>Grŵp 11: Technegol — Trafodiadau gan Bartneriaeth: Gwelliannau Drafftio (Gwelliannau 22, 23)</p>

11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:03, 28 Mawrth 2017

Grŵp 11 yw’r grŵp nesaf. Mae’r grŵp yma’n cynnwys gwelliannau technegol sy’n ymwneud â gwelliannau drafftio ym maes trafodiadau gan bartneriaeth. Gwelliant 22 yw’r prif welliant ac rydw i’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a’r gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Drakeford.

Cynigiwyd gwelliant 22 (Mark Drakeford).

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 5:03, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd.  Dyma’r gyfres olaf o welliannau technegol yn unig a fydd yn dod gerbron y Cynulliad y prynhawn yma.  Mae gwelliant 23 yn gwneud mân welliannau technegol i’r drafftio presennol ar gyfer trafodiadau partneriaeth sy'n ymwneud â phartneriaethau sydd wedi’u gwneud yn gyfan gwbl o gyrff corfforaethol.  Mae trafodiadau sy’n cynnwys partneriaethau yn cael eu llywodraethu gan reolau penodol, a nodir yn Atodlen 7 y Bil.  Mae'r gwelliant hwn yn sicrhau bod y rheol hon yn gweithredu mewn modd sy'n gyson â rheolau treth dir y dreth stamp sy'n bodoli eisoes.  Mae gwelliant 22 yn ganlyniadol ar welliant 23, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r ddau ohonynt.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:04, 28 Mawrth 2017

Nid oes dim siaradwyr ar y grŵp yma. Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn gwelliant 22? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 22.

Derbyniwyd gwelliant 22 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 23 (Mark Drakeford).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 23? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 23.

Derbyniwyd gwelliant 23 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.