<p>Grŵp 10: Technegol — Diffiniadau (Gwelliannau 25, 26, 27, 4, 5)</p>

11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:01, 28 Mawrth 2017

Y grŵp nesaf yw grŵp 10. Mae’r grŵp yma’n cynnwys gwelliannau technegol sy’n ymwneud â diffiniadau. Gwelliant 25 yw’r prif welliant yn y grŵp, ac rydw i’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a’r gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Drakeford.

Cynigiwyd gwelliant 25 (Mark Drakeford).

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 5:02, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Llywydd, fel y dywedasoch, mae'r rhain yn welliannau technegol sydd i gyd yn ceisio gwella gwahanol ddiffiniadau a ddarperir yn y Bil. Mae gwelliant 4 yn mewnosod diffiniad o 'cofrestrydd' yn adran 65 y Bil, ar gyfer cofrestru trafodiadau tir. Mae gwelliant 5 yn gysylltiedig â gwelliant 4, gan ei fod yn cael gwared ar ddiffiniad heb ei ddefnyddio o 'cofrestrydd' yn yr un adran, at ddibenion gwella eglurder. Mae gwelliannau 25 a 26 yn mewnosod y geiriau 'sir' a 'cyngor bwrdeistref sirol' yn y drefn honno er mwyn eglurder. Mae gwelliant 27 yn diweddaru rhif yr adran a ddarperir yn Neddf Priffyrdd 1980 i sicrhau bod y croesgyfeiriad cywir yn cael ei ddefnyddio wrth chwilio am ystyr ar gyfer 'priffordd'. Gofynnaf i Aelodau gefnogi'r gwelliannau—maent yn gwella drafftio'r Bil.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:03, 28 Mawrth 2017

Nid oes dim siaradwyr ar y grŵp yma ac felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 25? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 25.

Derbyniwyd gwelliant 25 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 26 (Mark Drakeford).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 26? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 26.

Derbyniwyd gwelliant 26 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 27 (Mark Drakeford).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 27? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 27.

Derbyniwyd gwelliant 27 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.