11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 28 Mawrth 2017.
Grŵp 6, felly: mae’r grŵp yma’n cynnwys gwelliannau technegol sy’n ymwneud â gwelliannau drafftio. Gwelliant 13 yw’r prif welliant yn y grŵp. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a’r gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Drakeford.
Llywydd, mae’r holl welliannau yn y grŵp hwn yn gwneud mân welliannau i'r drafftio presennol yn y Bil. Mae gwelliant 6 yn disodli'r gair 'paragraff' gydag 'isadran', ac mae gwelliant 13 yn dileu'r gair 'ond'. Mae gwelliannau 15 ac 16 yn gwneud mân welliannau drafftio i fersiwn Gymraeg y Bil yn unig, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n eu cefnogi'r prynhawn yma.
Nid oes siaradwyr yn y grŵp yma. Nid oes angen i’r Ysgrifennydd Cabinet ymateb i’r ddadl. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13. A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbyniwyd gwelliant 13.