Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch, Llywydd, ac rwy’n addo ildio’r llawr i eraill cyn bo hir fel y gwneuthum gyda’r prif welliannau ar y ddau grŵp cyntaf. Fe wnes i addasu fy nghyfres flaenorol o welliannau yng ngoleuni'r hyn a glywsom yn ystod y cam pwyllgor a nifer o welliannau eraill yr euthum ar eu trywydd bryd hynny nad ydw i’n mynd ar eu trywydd yma. Fodd bynnag, mae'r gwelliant hwn yn yr un ffurf ag a roddais i'r pwyllgor, ac rwy’n credu ei fod yn newid allweddol o egwyddor. Derbyniodd ddwy bleidlais yn y pwyllgor, tri yn erbyn a dau ymataliad. Felly, rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth gwerth ei roi i'r Siambr yn ei gyfanrwydd.
Rydym wedi cael dadleuon gan Ysgrifennydd y Cabinet mewn perthynas â hyn, ac rwy’n meddwl bod cwpl o faterion allweddol sy'n bwysig. Mae sicrwydd i drethdalwyr. Rydym i gyd yn cytuno bod hynny’n rhywbeth sy’n ddeniadol ac y dylem ei gael i'r graddau mwyaf posibl. Roedd y pwyllgor, rwy’n meddwl, yn falch bod Ysgrifennydd y Cabinet, os cofiaf yn iawn, wedi gwneud addewid yng Ngham 2, ei fod, erbyn mis Hydref, yn mynd i gyhoeddi yn ffurfiol beth fyddai'r cyfraddau pan fyddai’r dreth trafodiadau tir yn cychwyn fis Ebrill nesaf, y flwyddyn nesaf . Ei fwriad drwyddi draw, fel y mae wedi cyfleu, rwy’n deall, yw cael y cyfraddau hynny yn parhau ar yr un sail ag y mae treth dir y dreth stamp wedi cael ei chymhwyso ar sail y DU, er, wrth gwrs, mae'n bosibl y gallai’r Canghellor ar lefel y DU newid y cyfraddau hynny i raddau rhwng nawr a phryd hynny. Mae'n dda y bydd gennym sicrwydd, o leiaf o fis Hydref, ac rwy’n gwerthfawrogi hynny. Mae'n iawn hefyd bod y cyfraddau, pan fyddant yn dod, a newidiadau i'r cyfraddau hynny yn mynd drwy weithdrefn penderfyniad cadarnhaol. Unwaith eto, mae hynny’n rhoi lefel o ddiogelwch o ran mewnbwn gan Aelodau ar ba bynnag safbwynt a gymer y Llywodraeth ynghylch yr hyn y dylai’r cyfraddau treth hynny fod. Fodd bynnag, ni fydd penderfyniad o'r fath yn agored i ddiwygiad; mae’n dod gan Weinidog, dyna ei farn ef, ac mae naill ai'n cael ei dderbyn neu ei wrthod, ac nid yn offeryn sylfaenol llawn, deddfwriaethol y Cynulliad hwn.
Felly, rwy’n meddwl mai dyna bwyntiau’r ddadl yno, ond rwy’n meddwl bod gwell dadl, ac un o egwyddor yw honno. Dyma'r dreth gyntaf yn y cyfnod modern sy'n cael ei datganoli i'r Cynulliad hwn i'w gweinyddu, i godi, ar ran pobl Cymru, ac mae'n ymddangos i mi—ac, mi dybiwn i, efallai i nifer ehangach o Aelodau—y byddai'n iawn i ni, fel y deddfwyr a etholwyd gan bobl Cymru, i benderfynu pa gyfraddau treth y dylent eu talu, yn enwedig ar yr adeg arwyddocaol iawn hwn ac, i rai yn y Siambr hon, yn gyflawniad pwysig iawn, o ran yr adeg honno, i fod yn codi’r dreth honno fel Cynulliad etholedig. Eto, cynigir yn lle hynny na fyddwn yn cymryd y penderfyniad hwnnw, na fydd y cyfraddau hynny ar wyneb y Bil, a byddwn yn ei adael i ddisgresiwn gweinidogol i’w benderfynu yn ddiweddarach yr hyn y dylai’r cyfraddau hynny fod, ac y dylem ar y gorau gael proses eilaidd lle na allwn ond gwrthod neu dderbyn ac nid ydym ein hunain yn ysgrifennu a phenderfynu ac ystyried beth y dylai’r cyfraddau treth hynny fod. Felly, rwy’n cyflwyno gwelliant 38 er mwyn rhoi cyfle i'r Cynulliad i roi ei farn yn ei gyfanrwydd, ac rwy’n edrych yn benodol at Blaid Cymru, fel y maent yn galw eu hunain, a ataliodd ar y cam pwyllgor ar hyn, ac y mae hwn yn fater o bwys mawr iddynt ac efallai i rai yn gam allweddol ar y ffordd i Gymru annibynnol, ac eto, pan ddaw i’r pen, ni fyddant—oni bai eu bod yn gwneud rhywbeth yn wahanol na'r hyn yr wyf yn disgwyl—yn mynnu hawliau’r Cynulliad hwn i siarad dros bobl Cymru i ni fel deddfwyr etholedig i bennu cyfraddau treth, ond yn hytrach bydd yn caniatáu hynny i Weinidogion.