<p>Gofal Cymdeithasol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 1:59, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am gyfarfod â mi y mis diwethaf i drafod fy mhryderon am yr effaith y mae rhoi arian y gronfa deulu i mewn gyda’r gronfa gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy wedi ei chael ar blant anabl a'u teuluoedd. O gofio bod yr arian ychwanegol hwn ar gael gennym bellach, ac o gofio eich sicrwydd i mi yn y cyfarfod hwnnw, ac mai’r rhain yw rhai o'n teuluoedd incwm isaf y mae’n rhaid iddynt, yn fy mhrofiad i, ymladd i gael popeth yn eu bywydau, a wnewch chi ystyried nawr dyrannu rhywfaint o'r arian ychwanegol hwn i blant anabl a'u teuluoedd?