Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 22 Mawrth 2017.
Er gwaethaf rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, mae anawsterau’n parhau gydag ysgolion hŷn sydd angen eu hatgyweirio. Cawsom sefyllfa braidd yn chwerthinllyd y gaeaf hwn, pan gafodd 1,400 o ddisgyblion o dair ysgol uwchradd yng Nghaerdydd eu cludo i lefydd fel Arena Motorpoint, stadiwm SWALEC, neuadd y sir a Choleg y Barri i gael gwersi. Achosodd hyn aflonyddwch sylweddol. A yw’r Gweinidog yn credu bod y sefyllfa hon yn dderbyniol, ac a yw ei adran yn gallu gwneud unrhyw beth i osgoi aflonyddwch tebyg yn y dyfodol?