Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 21 Mawrth 2017.
Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Fel Plaid Cymru, rydym ninnau’n falch o weld rhywfaint o gynnydd wedi bod gyda chymorth i ddatblygu rhai datrysiadau i rai o'r problemau dybryd sydd gennym, yn enwedig yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Ond, wrth gwrs, roedd y fenter hon yn deillio'n wreiddiol o’r ddogfen 'Arloesi Cymru', a oedd yn nodi pedwar maes arbenigedd—cyfeiriwyd atynt fel arbenigo craff, rwy’n credu. Dyma oedden nhw: gwyddorau bywyd ac iechyd; ynni carbon isel ac amgylchedd; uwch beirianneg a deunyddiau; a TGCh a'r economi ddigidol. Tybed beth oedd cydbwysedd y ceisiadau yn y rownd gyntaf. Wnaethon nhw gyrraedd y targedau i ganfod problemau penodol y gellid eu datrys o fewn pob un o'r meysydd arbenigol allweddol hynny? Os nad oedd digon o geisiadau yn cael eu cyflwyno yn rhai o’r meysydd penodol hynny a nodwyd yn flaenorol, a wneir unrhyw ymdrech i geisio dod o hyd i rai sydd â’r posibilrwydd ganddyn nhw i roi cynnig ar fynd i'r afael â rhai o'r datrysiadau i’r problemau penodol hynny?
Rwy'n falch iawn hefyd, wrth gwrs, mai partneriaeth rhwng y cyhoeddus a’r preifat yw hon i fod. Ond yn amlwg, mae llawer o'r prosiectau yr ydych yn eu nodi—ac rydych wedi awgrymu hynny yn eich datganiad—wedi gwneud môr a mynydd o’r manteision, mae’n debyg iawn gen i, ar gyfer y sector cyhoeddus i rai o'r pethau y gweithiwyd arnynt. Ac rwyf yn clywed yr hyn a ddywedoch chi am geisio rhoi pwyslais ar y manteision ehangach, os mynnwch chi, yn enwedig i'r sector preifat hefyd er mwyn annog mwy o fuddsoddi ynddi. Pa feysydd, tybed, yr oeddech yn meddwl amdanyn nhw pan oeddech yn gwneud y datganiad arbennig hwnnw. I mi, mae'n ymddangos yn debyg iawn mai pethau fel TGCh a'r economi ddigidol—roeddem yn trafod rhai o'ch cyfrifoldebau eraill yn gynharach mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, fel argaeledd band eang, er enghraifft—gallai datrysiadau eraill gael eu datblygu gyda'r mathau hyn o gronfeydd ymchwil, a tybed a allech chi wneud sylw o ran pa mor ddymunol fyddai hynny. Mae’n amlwg, eich bod, gobeithio, yn hysbysebu’r cyfleoedd i wneud cais yn eang. A wnewch chi ddweud wrthym ni pa fath o lwyfannau ydych yn hysbysebu arnyn nhw fel y gellir annog pobl a allai fod yn gwylio heddiw—busnesau bach ac ati, a chanolfannau a chyfleusterau ymchwil eraill—i fod yn ymwybodol o’r cronfeydd hyn a chael gwybod a oes modd iddyn nhw ddefnyddio rhywfaint o’r arian hwnnw?
A wnewch chi ddweud wrthyf i hefyd—? Rwy'n gwybod bod ein prifysgolion yn amlwg yn ganolfannau sy’n rhagori mewn ymchwil, ond mae gan ein colegau addysg bellach ran gynyddol yn y maes penodol hwn. Fe wnaethoch chi sôn am rai o'r materion sy'n gysylltiedig â gwaith adeiladu, er enghraifft, gyda chyngor Caerdydd, a tybed faint o ymgysylltiad, os o gwbl, sy’n bodoli rhwng y gronfa ymchwil ac arloesi benodol hon a sector y colegau addysg bellach ar hyn o bryd, ac os na, pa gamau y gallech chi yn Llywodraeth eu cymryd er mwyn cael ymgysylltiad gwell rhyngddynt.
Dim ond i gloi—ac mae hyn yn ymwneud â’r mater ehangach o gaffael, ac rwyf yn deall nad eich cyfrifoldeb chi yn gyfan gwbl yw hynny; ei fod yn fwy o gyfrifoldeb ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid—ond yn amlwg, ynglŷn â chaffael, mae'n bwysig iawn fod busnesau llai a busnesau lleol yn gallu bod â rhan yn rhai o'r datrysiadau lleol y gallen nhw eu cynnig. Ond wrth i ni symud fwy a mwy tuag at strategaeth caffael mwy cenedlaethol, am resymau dealladwy, yn enwedig gydag arbedion maint, mae llawer o’r busnesau llai a’r cwmnïau llai hynny’n teimlo eu bod wedi eu gwthio i’r neilltu i raddau. Felly, tybed pa gamau a gymerwyd gyda'r gronfa hon ac efallai’n ehangach, i sicrhau bod y busnesau bach hynny a allai fod yn rhanbarthol, neu hyd yn oed yn llai, yn cael eu hannog yn weithredol i gymryd rhan yn y mathau hyn o gynlluniau cyffrous ac arloesol.