Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 21 Mawrth 2017.
Diolch am hynny, Adam Price. Rwyf yn cytuno â chi ei bod yn fenter gyffrous iawn, ac rydym wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb, fel y dywedais, o fannau eraill sydd am gael gweld sut yr ydym yn mynd ati yma yng Nghymru. Ac rwyf hefyd yn cytuno bod angen inni ddatblygu rhai metrigau wrth inni fynd yn ein blaenau. Mae llawer o hyn wedi bod, fodd bynnag, yn ymatebion penodol i heriau mawr neu broblemau penodol, a datblygu'r metrigau o ystyried y risg, os hoffwch chi, tra bod mesur yr allbwn hefyd yn dasg ynddi ei hun, ond byddwn yn bwrw ymlaen â hynny. Os oes gan yr Aelod unrhyw weledigaeth benodol ar sut y gellid strwythuro hynny, byddwn i'n ddiolchgar iawn i'w hystyried.
Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud yw prif ffrydio ychydig ar hynny yn y ffordd yr ydym yn ymateb i heriau a hybu rhai o'r gwelliannau technolegol gan ddefnyddio rhai o systemau data Llywodraeth sydd ar gael gennym. Efallai bod yr Aelod yn gwybod—ar wahân i hynny ar hyn o bryd, ond fe allwn integreiddio'r ddau beth—rydym hefyd wedi bod yn cynnal rhai heriau data a rhai hacathonau, fel y’u gelwir, ac anghynadleddau—mae'r rhain i gyd yn dermau cymharol newydd i mi, ond mae’r cymunedau bach o bobl sy'n eu cefnogi yn eu deall nhw—i nodi’r heriau y gellir eu datrys drwy ein setiau data hefyd, yn rhai o'r heriau craidd cymdeithasol, amgylcheddol a phrif ffrwd.
O ran y cyllidebau, maen nhw wedi eu hariannu ar hyn o bryd o gyllideb craidd Cymru. Mae'r gyllideb hyd yma wedi bod ychydig dros ryw £6 miliwn. Rydym yn ystyried beth arall y gallwn ei ariannu. Rydym yn ystyried beth allai ein partneriaid yn y sector cyhoeddus ei wneud, a'r hyn y gallwn ninnau ei wneud gyda gwariant caffael, ac yn y blaen. Felly, y syniad yw ein bod yn ei yrru ymlaen i feddylfryd caffael prif ffrwd gyda golwg ar ddatrys problemau, nid ar brynu pethau yn unig.
Felly, rwyf yn cytuno i raddau helaeth â'r rhan fwyaf o'r pwyntiau a wnaethoch, a byddwn yn bwrw ymlaen yn yr ysbryd hwnnw.