1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 21 Mawrth 2017.
Hefin David
Llafur
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i greu gwell swyddi yn nes at adref? OAQ(5)0521(FM)
Carwyn Jones
Llafur
1:53,
21 Mawrth 2017
Mae tîm traws-Lywodraeth yn bwrw ymlaen â’r rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref i gyfochri amrywiaeth o brosiectau masnachol yn well gydag ymyraethau eraill i gefnogi creu cyflogaeth ystyrlon mewn cymunedau sydd â lefelau uchel o ddiweithdra.
Hefin David
Llafur
1:54,
21 Mawrth 2017
Mae'n werth cofio mai ym mis Hydref 2015 y gwnaeth Cyngres Undebau Llafur Cymru lansio ei ymgyrch ardderchog ar gyfer swyddi gwell yn nes at adref, er budd cymunedau’r Cymoedd fel yr un yr wyf i’n ei gynrychioli yng Nghaerffili, ac, yn wir, derbyniais nodyn cyfeillgar iawn ganddyn nhw yr wythnos diwethaf yn pwysleisio hynny, ac roeddwn i’n falch o weld yr un egwyddorion wedi eu cynnwys yn y rhaglen lywodraethu.
Hoffwn groesawu'r araith a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ddoe yng Ngholeg y Cymoedd, pryd y cydnabu bwysigrwydd mynd i'r afael â gwahaniaethau rhanbarthol a rhoi pwyslais rhanbarthol ar greu cymunedau cydnerth ac yn wir swyddi gwell yn nes at adref. Gyda hyn mewn golwg, a wnaiff y Prif Weinidog gynnig rhagor o fanylion am ddull Llywodraeth Cymru a fydd yn mynd i'r afael â’r heriau economaidd hynny a wynebir gan Gymoedd gogleddol y de, gan helpu i ddatblygu ein sectorau arbenigol ein hunain, gan adeiladu ar gryfder presennol, a'r cyfalaf cymdeithasol sy'n bodoli yno?
Carwyn Jones
Llafur
1:55,
21 Mawrth 2017
Wel, yn gyntaf, mae’r treialon masnachol yn dechrau profi'r ymyraethau i weld sut y gallant fod mor effeithiol ag y gallant fod. Rydym yn bwriadu gweithredu strategaeth benodol, yn rhanbarthol yn y Cymoedd gogleddol, ac ar draws Cymru gyfan. Ceir tasglu gweinidogol a sefydlwyd ar draws y Llywodraeth i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn. Yr her i ni yw bod gwahaniaethau o fewn y Cymoedd eu hunain o ran perfformiad. Rydym ni’n gwybod bod Merthyr yn gwneud yn arbennig o dda o ran denu buddsoddiad. Nid yw hynny yn cael ei adlewyrchu ym mhob cymuned yn y Cymoedd. Felly, yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei wneud yw sicrhau y gallwn wasgaru datblygiad a gwelliant economaidd yn gyfartal dros y blynyddoedd nesaf, yn hytrach na gweld rhai rhannau o'r Cymoedd yn gwneud yn dda ac eraill ddim cystal—ac eithrio ymyraethau masnachol a phrosiectau arbrofol. O hynny, mae’r tasglu yn gangen arall o hynny.
Siân Gwenllian
Plaid Cymru
Gwell swyddi yn nes at adref—i fy etholwyr i, beth mae hyn yn ei olygu yw creu swyddi o ansawdd yn y gogledd-orllewin, ac mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddangos y ffordd efo hyn, ac i gael polisïau cwbl fwriadus i wasgaru swyddi Llywodraeth ar draws Cymru. Pryd, felly, mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu diwygio ei strategaeth lleoli swyddi? Mae angen cynnwys meini prawf penodol newydd a fyddai’n arwain ar ddosbarthu swyddi Llywodraeth Cymru mewn ffordd gyfartal ar draws Cymru. Rydw i’n awgrymu eich bod chi yn diwygio’r strategaeth lleoli swyddi ar frys cyn i bobl y gogledd golli pob ffydd yn eich Llywodraeth.
Carwyn Jones
Llafur
1:56,
21 Mawrth 2017
Mae hynny’n hollol annheg o gofio’r ffaith mai ni, fel Llywodraeth, wnaeth agor Cyffordd Llandudno. Ni fel Llywodraeth oedd â swyddfa yng Nghaernarfon. Ni fel Llywodraeth sydd wedi symud mwy o swyddi mas o Gaerdydd nag erioed o dan y Swyddfa Gymreig, gyda swyddi ar draws Cymru. Nid yw’n bosibl cael swyddfa ym mhob lle, yn amlwg, ond mae’n record ni yn un da dros ben ynglŷn â symud swyddi, yn enwedig i’r gogledd. Mae mwy o swyddi yn y gogledd nawr—pobl sy’n gweithio i Lywodraeth Cymru—nag oedd erioed yn wir ynglŷn â sefyllfa’r Swyddfa Gymreig.
Darren Millar
Ceidwadwyr
1:57,
21 Mawrth 2017
Brif Weinidog, os ydym ni eisiau cael mwy o bobl yn gweithio’n agosach at adref, yna beth am weithwyr cartref? Un o'r problemau y mae gweithwyr cartref yn eu hwynebu yn fy etholaeth i ac mewn rhannau eraill, o’r gogledd yn enwedig, yw cysylltedd band eang gwael. Gwelsom adroddiad yr wythnos diwethaf a oedd yn dweud bod rhai o'r cyflymderau mwyaf araf i'w gweld yng ngogledd Cymru, a cheir llawer o bobl nad oes ganddynt fynediad at fand eang cyflym iawn o hyd. Beth ydych chi'n ei wneud i ddwyn BT ac Openreach i gyfrif i sicrhau eu bod yn cyflawni eu haddewidion a'u rhwymedigaethau o dan y cynllun? A pha gamau ydych chi’n eu cymryd i fynd i'r afael â’r 4 neu 5 y cant o’r cartrefi hynny sydd y tu allan i gwmpas y cynllun ar hyn o bryd, fel y gall y bobl hynny hefyd yn yr ardaloedd hynny gael y cyfle i weithio o gartref?
Carwyn Jones
Llafur
Fel y mae’r Aelod yn gwybod, ein nod yw i 96 y cant o gartrefi gael mynediad at fand eang cyflym iawn erbyn yr haf. Ni fyddai llawer o'r cartrefi hynny fyth wedi cael mynediad heb ymyrraeth gan y Llywodraeth gan nad oedd y farchnad yno erioed. Mae'n iawn nodi, wrth gwrs, y ffigur bras o 4 y cant o bobl na fyddent wedi bod yn rhan o Gyflymu Cymru—maen nhw mewn ardaloedd arbennig o anghysbell. Bydd dewisiadau eraill y bydd yn rhaid eu harchwilio ar eu cyfer nhw, fel, er enghraifft, y defnydd o loerennau yn hytrach na defnyddio'r ceblau. Mae'r rhain yn faterion yr ydym yn ymwybodol ohonynt. Er bod Cyflymu Cymru yn canolbwyntio ar y 96 y cant, nid yw’r 4 y cant wedi eu hanghofio.
David Rowlands
UKIP
1:58,
21 Mawrth 2017
Brif Weinidog, rwyf wedi cael ar ddeall bod 175 o fusnesau ar restrau aros am unedau sy'n eiddo i'r cyngor yng Nghaerffili ar hyn o bryd, rhai ers hyd at bum mlynedd. A allwch chi nodi felly a oes unrhyw gynlluniau gan y Llywodraeth i helpu cynghorau fel Caerffili i adeiladu unedau newydd i ddarparu ar gyfer gwargedion o'r fath, o ystyried y ffaith, yn amlwg, bod gan y cwmnïau hyn y potensial i greu miloedd o swyddi yn agos at adref?
Carwyn Jones
Llafur
Wel, nid wyf yn ymwybodol o'r sefyllfa yng Nghaerffili fel y mae’n ei disgrifio. Byddaf yn ysgrifennu ato ynglŷn â hynny, gan ei fod yn benodol i gyngor Caerffili yn hytrach nag i Lywodraeth Cymru. Mae angen i ni osgoi sefyllfa lle’r ydym ni’n adeiladu llawer iawn o wahanol unedau ffatri ar hap gan ein bod ni’n gwybod bod llawer ohonynt yn aros yn wag, neu roedden nhw’n aros yn wag yn y 1990au. Yr hyn yr ydym ni’n bwriadu ei wneud yw nodi adeiladau presennol sy'n briodol i fusnesau sydd eu heisiau, ac edrych lle y gellir adeiladu unedau lle’r ydym ni’n gwybod y bydd galw. Ac mae hynny'n rhywbeth sy’n sicr yn rhan o'n strategaeth economaidd.
The cabinet is the group of twenty or so (and no more than 22) senior government ministers who are responsible for running the departments of state and deciding government policy.
It is chaired by the prime minister.
The cabinet is bound by collective responsibility, which means that all its members must abide by and defend the decisions it takes, despite any private doubts that they might have.
Cabinet ministers are appointed by the prime minister and chosen from MPs or peers of the governing party.
However, during periods of national emergency, or when no single party gains a large enough majority to govern alone, coalition governments have been formed with cabinets containing members from more than one political party.
War cabinets have sometimes been formed with a much smaller membership than the full cabinet.
From time to time the prime minister will reorganise the cabinet in order to bring in new members, or to move existing members around. This reorganisation is known as a cabinet re-shuffle.
The cabinet normally meets once a week in the cabinet room at Downing Street.