Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 21 Mawrth 2017.
Brif Weinidog, un maes o driniaeth ysbyty lle nodwyd problemau yn rheolaidd yw maeth a hydradiad mewn ysbytai. Mae maeth yn yr ysbyty yn angen gofal iechyd sylfaenol, rwy'n siŵr y byddwch chi’n cytuno â mi ar hynny. Nawr, ddoe, cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad arall ar faeth, ac mae hyn bum mlynedd ar ôl yr adroddiad diwethaf ar faeth. Canfu'r adroddiad, a dyfynnaf,
‘gwnaethom ganfod diffyg arweinyddiaeth, diffyg gweithgarwch a chynnydd rhwystredig o araf mewn sawl maes pwysig.’
Rydych chi’n honni eich bod wedi cyflwyno mentrau newydd i ddatrys hyn. Pam nad ydynt wedi llwyddo eto, a pha resymau allwch chi eu rhoi am y cynnydd araf o ran maeth mewn ysbytai?