Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 15 Mawrth 2017.
Rwy’n ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ateb ystyrlon. Fe glywom ni yn y Pwyllgor Economi, Isadeiledd a Sgiliau y bore yma gonsýrn gan Sefydliad Bevan, er enghraifft, a gan yr Athro Karel Williams, bod gorddibyniaeth ar y model ac ar y map sydd, yn y de, ar sail y dinas-ranbarthau, yn y gogledd ar y fargen twf i ogledd Cymru, a'r perig o ddiwallu—o lastwreiddio’r ffocws, yn hytrach—ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng ngogledd y Cymoedd, er enghraifft, neu yng ngogledd-orllewin Cymru. A fyddai fe yn edrych ar y syniadau amgen sy’n cael eu cyflwyno gan Sefydliad Bevan ynglŷn â chreu parth menter i’r Cymoedd ac, a dweud y gwir, gan fy mhlaid i ynglŷn a chreu fersiwn newydd o’r Bwrdd Datblygu Cymru Wledig mewn ffordd, a hefyd asiantaeth datblygu pwrpasol i’r Cymoedd?