10. 6. Dadl: Gwastraff Trefol ac Ailgylchu

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 5:26, 14 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Oes, mae—. Byddai'n rhaid imi edrych ar hynny, ond pan gefais—. [Torri ar draws.] Diolch, Joyce. I barhau, pan gefais y sgwrs hon â’r Gweinidog sy'n gyfrifol, Lesley Griffiths, roeddem yn anghytuno ar y pwynt hwn ynghylch data. Felly, rwy’n ymddiheuro; mi edrychaf ar hyn. Mae data yn cael eu rhoi imi; nid wyf wir wedi—. Ni allaf yn bersonol wirio o ble y daeth ar hyn o bryd.

Iawn. Felly, mae gennym broblemau â thipio anghyfreithlon mewn rhai ardaloedd. Iawn, rydym wedi gwneud hynny. O edrych ar Gaerdydd, rydym wedi gweld straeon bron bob wythnos yn y 'South Wales Echo' am dystiolaeth sydd, mae’n rhaid cyfaddef, yn anecdotaidd, ond mae deiliaid tai lleol pryderus wedi darparu digon o luniau yn y blynyddoedd diwethaf sy’n pwyntio at eu cred bod tipio anghyfreithlon wedi cynyddu’n gyflym yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ddiweddar, cafodd llwyni eu clirio ar dir o amgylch y brif reilffordd gan ddatgelu’r swm enfawr o wastraff a gafodd ei adael yn anghyfreithlon ar y tir hwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac ni ddaeth hynny i'r amlwg nes i’r llwyni gael eu torri'n ôl, ac mae'n olygfa eithaf dramatig. Yn amlwg, nid yw'r polisi 'diwastraff' hwn, fel y’i gelwir, yn arwain at fod yn ddiwastraff o gwbl, ac, yn wir, mae'n ymddangos ei fod mewn gwirionedd yn cynyddu faint o wastraff sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon yng Nghymru. Yng Nghaerdydd, mae polisi Llywodraeth Cymru, a dweud y gwir, wedi cael ei danseilio gan benderfyniad y cyngor Llafur i gau dau o bedwar depo ailgylchu’r ddinas, sy'n edrych fel ffordd ryfedd o geisio cyflawni dyfodol diwastraff. Felly, tybed pa sylwadau a fydd gan y Gweinidog ynghylch y penderfyniad hwnnw.

Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae cyngor Caerdydd wedi tueddu i guddio y tu ôl i'r angen i gydymffurfio â thargedau ailgylchu gwastraff yr UE pan ofynnwyd iddynt pam mae polisïau casglu gwastraff yn newid. Maen nhw bob amser yn dweud hyn: mae Bob Derbyshire, sy’n gyfrifol am hynny ar lefel y Cabinet, wedi dweud bob amser bod angen iddynt gydymffurfio â thargedau ailgylchu gwastraff yr UE, ond a ninnau nawr yn gadael yr UE, gallwn ni ein hunain, fel—. [Torri ar draws.] A, iawn, efallai y gallwch daflu goleuni ar hynny, ond mae ef yn dal i hawlio bod angen cydymffurfio â thargedau’r UE. Erbyn hyn mae gennym ein targed ein hunain o ddim gwastraff, felly nid targed yr UE ydyw. Felly, mae angen inni ystyried cost glynu’n slafaidd at dargedau anhyblyg iawn. Credaf fod angen inni edrych yn ofalus iawn ar ein polisi dim gwastraff ein hunain yn awr, ac efallai y gwnaiff y ddadl heddiw ein helpu i wneud hynny. Diolch.

cabinet

The cabinet is the group of twenty or so (and no more than 22) senior government ministers who are responsible for running the departments of state and deciding government policy.

It is chaired by the prime minister.

The cabinet is bound by collective responsibility, which means that all its members must abide by and defend the decisions it takes, despite any private doubts that they might have.

Cabinet ministers are appointed by the prime minister and chosen from MPs or peers of the governing party.

However, during periods of national emergency, or when no single party gains a large enough majority to govern alone, coalition governments have been formed with cabinets containing members from more than one political party.

War cabinets have sometimes been formed with a much smaller membership than the full cabinet.

From time to time the prime minister will reorganise the cabinet in order to bring in new members, or to move existing members around. This reorganisation is known as a cabinet re-shuffle.

The cabinet normally meets once a week in the cabinet room at Downing Street.