<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 2:28, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Tan 1970, cafodd miloedd o blant o bob cwr o’r DU eu halltudio dan orfod i wledydd ar draws y Gymanwlad fel rhan o bolisi llywodraeth afresymol a rwygodd blant oddi wrth eu teuluoedd a’u hanfon ar draws y byd i gael eu defnyddio fel llafur rhad, i gael eu hesgeuluso a’u cam-drin weithiau. Pa gamau a roesoch ar waith i ganfod faint o blant Cymru, y bydd rhai ohonynt yn dal yn fyw heddiw o bosibl, a gafodd eu halltudio o dan y rhaglen plant mudol ers y 1950au?