<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Llafur 2:26, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae fy nhîm eisoes wedi dechrau trafod gyda’r byrddau darparu gwasanaethau lleol, a oedd, i bob pwrpas, yn rheoli gweithrediad Cymunedau yn Gyntaf. Mae hwnnw’n ehangu yn awr hefyd i grwpiau cymunedol ac asiantaethau eraill sydd â diddordeb, ac rwy’n siŵr y byddai fy nhîm yn falch o edrych ar y cynigion y mae’r Aelod wedi eu dwyn i fy sylw heddiw.