<p>Maes Awyr Caerdydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 7 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Ceidwadwyr 1:37, 7 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n mynd i roi croeso arall y prynhawn yma. Rwy’n mynd i groesawu’r twf i nifer y teithwyr ar wasanaeth bws T9. Credaf fod hynny’n newyddion gwych i’w groesawu. Nawr, o ystyried y ffaith bod y gwasanaeth hwn yn gymaint o lwyddiant a’i fod yn profi bellach ei fod yn gynaliadwy yn y tymor hir, a wnewch chi ymrwymo i gael gwared ar y cymhorthdal ​​o £0.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth hwn ac yn hytrach cynnig cymorthdaliadau i wasanaethau bws eraill y rhoddwyd terfyn arnynt gan doriadau i'r grant gweithredwyr bysiau?