Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 1 Mawrth 2017.
A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r bleidlais.
Y bleidlais gyntaf, felly, ar ddadl Plaid Cymru, ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi’i wrthod.