Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 1 Mawrth 2017.
A allaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei ddatganiad, a hefyd croesawu'r ffordd ymlaen, a hefyd diolch am eiriau aeddfed fy nghyd-aelod o’r pwyllgor, David Melding? Yn naturiol, rydym ni yn dathlu heddiw Dydd Gŵyl Dewi Sant a gwneud y pethau bychan, ac rydym ni yn gwneud rhai pethau bychan fel craffu ar is-ddeddfwriaeth—yn eithaf aml mae hynny yn weddol fach. Ond, wrth gwrs, fel yr oedd David yn ei grybwyll, mae yna bethau mawr yn gallu digwydd hefyd, ac rwy’n olrhain yr holl ddadleuon cawsom ni o gwmpas Deddf Cymru yn awr—Bil Cymru fel yr oedd e.
Wrth gwrs, nid yn unig yn hanes mae gyda ni Dewi Sant, ond rhyw dair canrif ar ei ôl o roedd Hywel Dda—Brenin Hywel Dda; rydw i wedi sôn amdano fe o’r blaen yng nghyd-destun y pwyllgor yma—a’i ddeddfau fo dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl a rhoddodd hawliau i fenywod am y tro cyntaf yn hanes dynoliaeth. Mae’n bwysig nodi hynny, ein bod ni yng Nghymru yn gallu creu deddfau sydd yn gyfan gwbl arloesol, ac, wrth gwrs, mae gyda ni’r cyfle unwaith eto, o dan y setliad cyfansoddiadol diweddaraf yma, i greu deddfau arloesol unwaith eto.
Wrth gwrs, mae yna nifer o bethau wedi newid ers dyddiau Hywel Dda. Rydw i’n falch bod y Cadeirydd, felly, wedi olrhain tri phrif fwriad y pwyllgor ar hyn o bryd a chrybwyll, fel y mae’n dweud yn fan hyn,
‘llunio egwyddorion arfer gorau ar gyfer dulliau o weithio rhwng sefydliadau ar gyfer deddfwriaeth gyfansoddiadol’ a hefyd ystyried gwaith deddfwrfeydd eraill yn yr ynysoedd hyn
‘o ran eu dulliau o weithio rhwng sefydliadau ac adeiladu arno pan fo'n ymwneud â meysydd polisi ehangach’.
Call iawn, ac mae gwir angen gwella cydweithio rhwng y gwahanol senedd-dai yn yr ynysoedd hyn. Rydym ni i gyd yn gallu crybwyll hanesion o’r gorffennol, pan oedd y lle hwn a phwyllgorau yn y lle hwn yn tueddu cael eu hanwybyddu yn eithaf aml, ac mae yna dystiolaeth bod hynny’n dal i ddigwydd, pan oeddem ni’n ceisio fel pwyllgor cael tystiolaeth pan oedd Deddf Cymru yn mynd rhagddi. Felly, rwy’n cefnogi’n gryf y bwriad sydd wedi cael ei amlinellu fan hyn gan y Cadeirydd eisoes.
Ond a fyddai’r Cadeirydd yn ei ymateb hefyd yn cytuno â fi fod, yn y cwestiwn yma o gydgysylltu rhwng gwahanol senedd-dai yn yr ynysoedd hyn, gryn dipyn o waith eto i’w wneud? Rydym ni wedi sefydlu’r ymchwiliad yma, ond rydym ni’n dechrau mewn lle bregus a gwan yn nhermau lle’r Cynulliad hwn yn y ffordd mae’r ynysoedd hyn yn cael eu rheoli. Felly, mae yna jobyn o waith i’w wneud a buaswn i’n edrych am ragor o sylwadau gan y Cadeirydd i’r perwyl yna.
Hefyd, gwnaeth o grybwyll y ffordd rydym ni’n mynd i ymgysylltu efo dinasyddion, ac mae hynny wedi digwydd eisoes. Rydw i’n edrych ymlaen at ragor o gyfarfodydd fel yna, achos, ar ddiwedd y dydd—buaswn i hefyd yn gobeithio buasai’r Cadeirydd yn gallu cytuno â mi bod yna waith i’w wneud yn fan hyn hefyd i esbonio, mewn ffyrdd weddol hawdd, achos yn y pwyllgor yma rydym ni’n aml yn gallu ymdrin â phethau sydd yn gallu edrych yn anodd ac yn sych. Ond, ar ddiwedd y dydd, mae hefyd eisiau gwneud pethau yn weddol hawdd fel bod ein dinasyddion ni, a rhai ohonom ni, yn gallu deall beth sydd yn mynd ymlaen. Hynny yw, mae yna bolisïau gwahanol yng Nghymru nawr o’u cymharu â Lloegr, yr Alban ac ati. Mae angen hefyd egluro’n glir i’n dinasyddion beth yn union sydd wedi cael ei ddatganoli a beth sydd heb ei ddatganoli, goblygiadau Deddf Cymru, sydd yn dod i mewn, ac, wrth gwrs, y gwahaniaeth sylfaenol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad. Nawr, yn amlwg, rŷm ni yn fan hyn yn gwybod y gwahaniaeth, ond nid yw o’n amlwg allan fanna, ac yn aml iawn nid yw e’n amlwg i’r sawl sy’n ysgrifennu penawdau yn ein papurau newydd chwaith—y gwahaniaeth rhwng y Llywodraeth yn y lle yma a’r Cynulliad ei hunan fel sefydliad.
I orffen, wedi crybwyll dau ffigwr mewn hanes, sef Dewi Sant a Hywel Dda, roeddwn i’n mynd i grybwyll Brenin Harri VIII hefyd, achos, cyn i bobl ddweud fy mod i’n sôn am bobl sydd â dim perthnasedd i’n deddfau, yn anffodus, mae Brenin Harri VIII yn dal efo perthnasedd na ddylai fod yna, buaswn i’n ei ddadlau, i’n deddfau ni heddiw drwy’r gorddefnydd, buaswn i’n dweud, o bwerau Harri VIII, sydd yn dal i ddigwydd pum canrif ar ôl i’r brenin yna adael y blaned yma. Felly, buaswn i hefyd yn licio gweld y Cadeirydd yn ymestyn y ddadl ynglŷn â’r defnydd o bwerau Harri VIII yn y lle yma, a’r ffordd ymlaen er mwyn lleihau’r defnydd yna ohonyn nhw. Diolch yn fawr.