<p>Datblygu Gwasanaethau Bysiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Llafur 2:00, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a dweud y bydd gwaith gyda’r diwydiant, gyda grwpiau teithwyr, ac yn wir, gydag awdurdodau lleol yn parhau? Mae’n amlwg fod pryder ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno rheoliadau newydd a rheoliadau cryfach, ond byddwn yn datgelu ein bwriadau a’n gweledigaeth gyffredinol yn y ddogfen a ddaw’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar Fawrth 8. Ein safbwynt yw bod angen newid er mwyn integreiddio gwasanaethau bysiau a threnau’n well ac er mwyn gwella hygyrchedd a phrydlondeb y gwasanaethau. Daw heriau gyda’r newidiadau hynny, ond yn y pen draw, mae’n rhaid i ni ystyried y teithwyr yn gyntaf oll ac mae gennyf hyder y bydd y gweithredwyr gorau yn gwneud hynny.