Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 28 Chwefror 2017.
Jane Hutt
Llafur
2:11,
28 Chwefror 2017
Rwy’n credu, o ran yr ymrwymiad yr ydym ni wedi ei wneud i docynnau bws rhatach dros y blynyddoedd, y byddai’r ffaith ein bod ni'n amcangyfrif y bydd awdurdodau lleol yn ad-dalu rhwng £65 miliwn a £70 miliwn i weithredwyr bysiau yn 2016-17, gan gynnwys £10 miliwn o'u cyllidebau eu hunain ar gyfer cludo deiliaid pasys hŷn ac anabl—. Rydym ni’n parhau, wrth gwrs, gyda'n cynllun ar gyfer pobl ifanc ac, yn amlwg, mae hon yn elfen bwysig o raglen lywodraethu Llywodraeth Lafur Cymru.