Mercher, 25 Mawrth 2026
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio sydd gyntaf heddiw. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.
1. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i ddatblygu ynni adnewyddadwy yn Nwyrain De Cymru? OQ64040
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd pan ganfyddir bod ffrwydro mewn chwarel yn torri amodau cynllunio mewn perthynas ag ansawdd aer ac iechyd y cyhoedd? OQ64059
Cwestiynau'r llefarwyr sydd nawr. Mae cwestiynau heddiw i gyd i gael eu hateb gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Mae'r cwestiynau cyntaf gan Gareth Davies.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ei phenderfyniad i dynnu cynllun datblygu lleol Wrecsam yn ôl? OQ64061
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar sut y bydd y gronfa twf lleol yn cefnogi cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys yn y Rhondda? OQ64051
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yn Mhreseli Sir Benfro? OQ64039
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi diwylliant yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OQ64045
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu busnesau yng Ngogledd Cymru i ehangu a pharhau i fod yn gystadleuol? OQ64053
8. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith yr ymgyrch tuag at sero net ar dwf economaidd yn Nwyrain De Cymru? OQ64037
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau oedi wrth ryddhau o ysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ64048
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr yn Lloegr i sicrhau bod pobl yn cael gafael ar ofal? OQ64029
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyflenwad o frechlyn MenB i fferyllfeydd i'w gynnig yn breifat i drigolion Islwyn? OQ64060
4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y marwolaethau diangen sy'n gysylltiedig ag amseroedd aros hir mewn adrannau damweiniau ac achosion brys? OQ64031
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ostwng nifer yr apwyntiadau a gollir ar draws gwasanaethau'r GIG? OQ64033
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y blaenoriaethau ar gyfer mynd i'r afael â phoen yng Nghynllun Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru? OQ64046
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar recriwtio i rôl arweiniol glinigol cardiaidd Cymru? OQ64026
8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at ofal a chymorth iechyd i drigolion yn y Rhondda? OQ64044
Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Yr unig gwestiwn i gael ei dderbyn heddiw yw'r un gan David Rees.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith strategaeth ddur Llywodraeth y DU ar ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru? TQ1456
Eitem 4 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Recriwtio a chadw athrawon'. A'r Cadeirydd sy'n gwneud y cynnig—Buffy Williams.
Eitem 5 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Cymraeg i bawb?' Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Delyth Jewell.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan, gwelliant 3 yn enwau James Evans a Laura Anne Jones, a gwelliant 4 yn enw Russell George. Os...
Dwi wedi derbyn un cwestiwn amserol i'w gymryd cyn diwedd ein gwaith ni y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn yma i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, ac i'w ofyn gan Adam Price.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o Adolygiad Rycroft, a sut fydd yn sicrhau bod y cap newydd ar roddion a'r gwaharddiad ar roddion cryptoarian ledled y DU yn cael eu cymhwyso'n...
Yr eitem nesaf yw'r ddadl fer. Mark Isherwood sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y balot ar gyfer y ddadl fer. Mark Isherwood.
Eitem 9 sydd nesaf, datganiadau i gloi yw'r rhain. Mae pedwar Aelod yn cyfrannu fan hyn, pob un o Blaid Lafur, am resymau digon amlwg, a'r cyntaf ohonyn nhw fydd Julie Morgan.
Mae'r bleidlais y prynhawn yma, heno, ar eitem 6, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Lywodraeth Cymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais....
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at wasanaethau iechyd menywod?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau diogelu ynni i aelwydydd?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia