Mercher, 16 Hydref 2024
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn o'r Senedd. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac mae'r cwestiwn...
1. Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cymryd i wella gwasanaethau bws i Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân? OQ61694
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y cysylltiad rheilffordd newydd rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd? OQ61692
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.
3. Pa asesiad y mae'r Ysgrifenydd Cabinet wedi ei wneud o lwyddiant newidiadau i amserlenni bysiau TrawsCymru? OQ61711
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y camau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yna lwybrau diogel i ddisgyblion cynradd ac uwchradd gyrraedd yr ysgol? OQ61707
5. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch deintyddiaeth yng ngogledd Cymru? OQ61715
6. Beth yw blaenoriaethau'r Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ61682
7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leddfu problemau teithio sy’n cael eu hachosi gan waith ffordd ar y rhwydwaith cefnffyrdd? OQ61697
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am drawsnewid rheilffordd Treherbert yn y Rhondda? OQ61705
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.
1. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yr un mor hygyrch i bawb ar...
2. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â nifer y rhai sy’n hawlio credyd pensiwn? OQ61684
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am lefelau tlodi plant yng Nghymru? OQ61714
4. Beth yw asesiad yr Ysgrifennydd Cabinet o'r cynnydd a wnaed ar y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'? OQ61719
5. Pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog mwy o bobl o grwpiau sydd yn draddodiadol wedi eu tangynrychioli, fel y gymuned LHDT+, i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth? OQ61689
6. Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cymryd i liniaru’r effaith ar drigolion yng Nghonwy a sir Ddinbych yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu taliadau tanwydd y...
7. Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i sicrhau cyfle cyfartal a chydraddoldeb mynediad ar y rhwydwaith trafnidiaeth...
8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant dros weddill tymor y Senedd hon? OQ61708
Symudwn ymlaen nawr at eitem 3, sef cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Mae'r cwestiwn cyntaf yn cael ei ateb gan y Llywydd, ac yn cael ei ofyn gan Alun Davies.
1. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i ddangos cefnogaeth y Senedd i bobl Wcráin? OQ61703
2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am drefniadau gwaith staff y Comisiwn? OQ61687
3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amcangyfrif o gostau ehangu Siambr y Senedd i greu lle ar gyfer Aelodau ychwanegol? OQ61693
4. Sut y mae'r Comisiwn yn hyrwyddo hanes a diwylliant Cymru i ymwelwyr ag ystâd y Senedd? OQ61710
5. Pa drafodaethau y mae’r Comisiwn wedi’u cael â’r Bwrdd Taliadau am opsiynau gwahanol ar gyfer llety preswyl i Aelodau o'r Senedd yng Nghaerdydd? OQ61712
Eitem 4 heddiw yw'r cwestiynau amserol. Mae dau gwestiwn amserol heddiw, a bydd y cyntaf gan Altaf Hussain.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am faterion llifogydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru? TQ1210
2. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynghorau ynghylch diffyg o £540 miliwn yn y gyllideb sy'n wynebu cynghorau a'u gallu i...
Eitem 5 sydd nesaf, datganiadau 90 eiliad, ac mae'r un cyntaf gan Mike Hedges.
Eitem 6 heddiw yw'r cynnig i sefydlu pwyllgor, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli, a galwaf ar Heledd Fychan i wneud y cynnig.
Eitem 8 yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Gweithredu diwygiadau addysg: Adroddiad interim'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Buffy Williams.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Mae'r bleidlais gyntaf nawr ar ddadl ar eitem 7, ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod; hwn oedd y Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli. Galw am bleidlais, felly, ar...
Mae yna un eitem arall i'w chyflwyno. Yr eitem yma yw eitem 12, y ddadl fer. Buffy Williams fydd yn cyflwyno'r ddadl fer, ac felly os gwnaiff yr Aelodau adael yn dawel.
Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch gwneud trafnidiaeth yn fwy hygyrch i bobl anabl?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gall pobl gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus drwy gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus dibynadwy?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia