Mercher, 9 Hydref 2024
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sioned...
1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru? OQ61633
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau y mae wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ynghylch cyllido awdurdodau lleol...
Cwestiynau llefarwyr y pleidiau nesaf. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
3. Pa gefnogaeth mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu ar gyfer hybu'r defnydd o'r Gymraeg yn rhanbarth Dwyrain De Cymru? OQ61664
4. Pa gyfleoedd ar gyfer arbedion effeithlonrwydd gwariant a nodwyd gan Lywodraeth Cymru cyn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26? OQ61667
5. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch pryd y bydd cyllid ar gael i dalu iawndal i bobl yng Nghymru y mae'r sgandal gwaed heintiedig yn...
6. Beth yw cynlluniau y Llywodraeth i gynyddu hyder pobl i siarad Cymraeg? OQ61642
7. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch darparu arian ar gyfer parhau i ehangu cynlluniau peilot nyrsio...
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyfraddau treth incwm yng Nghymru? OQ61635
Eitem 2 yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Darren Millar.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu parc cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OQ61639
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cynnydd tuag at gyrraedd ei thargedau bioamrywiaeth? OQ61670
Cwestiynau llefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, James Evans.
3. A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet roi diweddariad ar y cynlluniau grant i gefnogi isadeiledd ar ffermydd i wella storfeydd slyri? OQ61669
4. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith tipio anghyfreithlon yn Nyffryn Clwyd? OQ61652
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gael mwy o ffermwyr i ddefnyddio dulliau ffermio cynaliadwy? OQ61666
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cynaliadwyedd ffermio? OQ61645
7. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch effaith newidiadau posibl i'r dreth etifeddiaeth ar fusnesau amaethyddol yng Nghymru? OQ61651
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Cyfoeth Naturiol Cymru? OQ61657
Eitem 3 yw'r cwestiynau amserol. Mae dau gwestiwn amserol heddiw, a bydd y cyntaf gan Heledd Fychan.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddi argymhellion adroddiad Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg i ladd June Fox-Roberts? TQ1196
2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod Dŵr Cymru, ynghyd â thalu’r gosb ariannol o £24.1 miliwn, yn gwneud gwelliannau hirdymor o ran lleihau...
Eitem 4 heddiw yw'r datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, John Griffiths.
Eitem 5 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl ifanc'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Carolyn Thomas.
Eitem 6 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Seinio'r Larwm: Llywodraethiant Gwasanaethau Tân ac Achub', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud...
Eitem 7 yw'r ddadl ar ddeiseb P-06-1474, 'Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y...
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
Yn gyntaf, galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio ar eitem 8, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Oes gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig....
Galwaf nawr ar Siân Gwenllian i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi hi. Siân.
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i adfer morwellt yng Nghymru?
Beth yw asesiad yr Ysgrifennydd Cabinet o'r cynnydd o ran datblygu polisïau ar gyfer y Gymraeg yng Nghasnewydd?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch dyraniadau ariannol i GIG Cymru er mwyn ymdopi â phwysau'r gaeaf?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia