Mercher, 17 Gorffennaf 2024
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet sydd gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn...
1. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gynyddu cyflog y sector cyhoeddus yn Nwyrain De Cymru? OQ61463
2. Sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cydweithio â Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer rheilffyrdd Cymru? OQ61448
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod digon o ryddhad ardrethi annomestig ar gael i fusnesau bach? OQ61453
4. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y bydd y newid yn Llywodraeth y DU yn ei chael ar amserlen cyllideb Llywodraeth Cymru? OQ61480
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau trethiant er budd cymunedau ledled Cymru? OQ61455
6. Faint o gyllid ychwanegol y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn disgwyl i Lywodraeth newydd y DU ei ddarparu i Gymru? OQ61457
7. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth newydd y DU ynglŷn â chyllid teg i Gymru? OQ61481
8. Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch cyllid ychwanegol i sefydliadau iechyd cymunedol? OQ61459
10. Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i gynyddu’r cyllid ar gyfer diwylliant yng nghyllideb atodol Llywodraeth Cymru? OQ61475
11. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ynglŷn â chynyddu’r dyraniadau cyllidebol ar gyfer...
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Hefin David.
1. Sut bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda Llywodraeth newydd y DU i wella ansawdd dŵr afonydd yng Nghymru? OQ61471
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid Llywodraeth y DU i gefnogi'r diwydiant cwrw a thafarndai? OQ61466
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo mynediad diogel i ddyfrffyrdd? OQ61479
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon? OQ61477
5. Pa gamau y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i annog gweithredu cymunedol dros natur? OQ61461
6. Pa asesiad mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o lwyddiant polisïau Llywodraeth Cymru i ddatblygu cadwyni cyflenwi bwyd lleol? OQ61472
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynlluniau'r Llywodraeth i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn? OQ61462
Yr eitem nesaf fydd y cwestiwn amserol. Y cwestiwn heddiw i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ac i'w ofyn gan Mabon ap Gwynfor.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y fframwaith mesurau arbennig newydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? TQ1157
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad. Dim ond un datganiad sydd heddiw, a bydd hwnnw gan Siân Gwenllian.
Felly, galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud yn cynigion yn ffurfiol. Darren Millar.
Nesaf yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatau i eitem 5 gael ei drafod. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar.
Eitem 5 yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 26.17(iii) mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol....
Eitem 6 heddiw yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—atebolrwydd Aelodau unigol. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Vikki Howells.
Eitem 7 yw dadl y Pwyllgor Cyllid: blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Peredur Owen Griffiths.
Eitem 8 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Y sefyllfa bresennol: Darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru'....
Eitem 9 sydd nesaf, dadl y Ceidwadwyr yw hon ar y cynnig o dan adran 37(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Dwi'n galw ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Y bleidlais ar eitem 10 fydd y pleidleisiau yma; dadl y Ceidwadwyr rŷn ni newydd ei chlywed ar ffermio yw hyn. Felly mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw...
Os gall yr Aelodau adael yn dawel, os gwelwch yn dda. Nid ydym wedi gorffen ein busnes am heddiw.
Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda'r Canghellor ynghylch dyfodol cyllid i Gymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu unrhyw drafodaethau sydd wedi digwydd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ers eu penodi?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia