Mercher, 3 Gorffennaf 2024
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Davies.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth gofal iechyd cymunedol yn Sir Ddinbych? OQ61372
2. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar ddarparu bwydydd sydd wedi'u prosesu'n helaeth i gleifion yn ysbytai'r GIG? OQ61371
Llefarwyr y pleidiau nawr sy'n gofyn cwestiynau. Altaf Hussain eto.
3. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella canlyniadau i bobl yng Nghwm Cynon a gaiff eu heffeithio gan ganser yr ysgyfaint? OQ61362
4. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar gynllun bwydo ar y fron Cymru gyfan? OQ61390
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru? OQ61359
6. A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet ddatganiad ar gysondeb ariannu gofal o fewn y gyfundrefn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru? OQ61377
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am wasanaethau brys yn Ysbyty'r Faenor? OQ61363
8. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o ddigonolrwydd y ddarpariaeth gwasanaeth yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? OQ61389
Eitem 2 sydd nesaf, cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg. Y cwestiwn cyntaf, Julie Morgan.
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu twf gwyddorau bywyd yng Nghymru? OQ61386
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd? OQ61366
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar drafodaethau gyda datblygwyr ffermydd gwynt ar raddfa fawr ym Mrycheiniog a Maesyfed? OQ61376
4. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cael gyda chyflogwyr ac undebau llafur i hyrwyddo gwaith teg ac annog gwell amodau gwaith i weithwyr yng Ngogledd Cymru? OQ61378
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gweithwyr i fod yn berchnogion ar fusnesau? OQ61375
6. Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith rhyddhad ardrethi busnes ar yr economi? OQ61370
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw prosiectau ynni adnewyddadwy yn cael effaith negyddol ar gymunedau cyfagos? OQ61379
8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi economi Gogledd Cymru? OQ61361
Yr eitem nesaf fyddai'r cwestiynau amserol. Does yna ddim cwestiynau amserol.
Eitem 4, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad 90 eiliad cyntaf heddiw gan Carolyn Thomas.
Eitem 5 sydd nesaf, y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Trydydd adroddiad ar ddeg i'r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'. Cadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig...
Eitem 6 sydd nesaf, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv). Hyfforddiant deintyddol yw'r ddadl yma. Siân Gwenllian sy'n gwneud y cynnig.
Eitem 7 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad ar wasanaethau rheilffyrdd a pherfformiad Trafnidiaeth Cymru 2023-24'. Galwaf ar Gadeirydd y...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 6, dadl Aelodau...
Mae yna un eitem ar ôl, sef y ddadl fer, a galwaf ar Sioned Williams i siarad am y pwnc a ddewisiwyd ganddi.
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu swyddi gwyrdd mewn etholaethau ôl-ddiwydiannol fel Rhondda?
Beth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i wella amseroedd ymateb ar gyfer galwadau coch?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia